Cawl Moron a Sinsir

Mae’r tywydd yn oeri, felly mae hi’n amser am rysait i’ch cynhesu chi!  Dyma gawl syml, ac yn hytrach nag ychwanegu croutons beth am ychwanegu ffacbys wedi rhostio? Mae’r rysait yma yn gwneud digon ar gyfer pum powlen o gawl. Cynhwysion: Ar gyfer y cawl: 1kg o foron 3 ewyn garlleg 1 nionyn 1 darn…

Halloumi, Tomato a Basil

Cinio ysgafn a hawdd efo dim ond ychydig o gynhwysion. Triwch gael hyd i domatos da sy’n felys a llawn blas. Mae’n bwysig cofio fod halloumi yn cynnwys lot o fraster a halen felly byddwch yn ofalus os ydych yn cadw llygad ar eich calorïau. I fwydo 1; lluoswch y rysáit i fwydo mwy. Cynhwysion:…

Remoulade Seleriac efo ham Parma

Ffordd ffres i ddefnyddio seleriac. Mae o’n mynd yn wych gydag unrhyw gig parod neu eog / macrell wedi’i fygu Dwi’n defnyddio iogwrt naturiol yn hytrach na mayonnaise nid yn unig er mwyn torri lawr ar y calorïau ond i wneud y remoulade flasu’n ysgafnach. Cynhwysion; Seleriac Dwy lwy fwrdd Iogwrt Naturiol Dwy lwy de…

Smwddi Pîn Afal, Sbigoglys a Ciwcymbr

Eisiau mwy o faeth yn eich deiet? Pam ddim dechrau’r diwrnod efo’r smwddi syml yma? Cynhwysion 100g o Bîn Afal 25g o Sbigoglys 50g o Gwicymbr 50ml o Ddŵr Dull Rhowch y cyfan yn y peiriant smwddi a chymysgu. Syml!

Myffins Llus Sawrus

Mae’r rhain yn grêt os nad ydych awydd rhywbeth rhy felys i frecwast. Maen nhw’n cadw mewn tun, neu focs am hyd at 5 diwrnod.  Maen nhw ar eu gorau os cânt eu cynhesu yn y microdon am ychydig eiliadau cyn eu bwyta!  Byddwch angen hambwrdd cacennau bach neu fyffins ar gyfer y rysáit yma….

Cacennau Pys a Parmesan

Byddai’r cacennau pys a parmesan yma’n gret ar gyfer brecwast neu brunch!   Cynhwysion: 100g o bys wedi rhewi 25g o gaws parmesan wedi ei gratio ½ shibwn spring onion wedi ei dorri’n fân 1 ŵy bach wedi’i gnocio 25g o flawd Pinsiad o halen Llwy fwrdd o olew olewydd   Dull: Rhowch y pys…

Asparagus, Bacwn ac Wŷ

Efo’r tywydd mor braf roeddwn i’n meddwl y byddai pryd ysgafn syml o ddiddordeb i rai ohonoch chi’r wythnos yma, felly dyma jesd y peth! Asparagus wedi’u rhostio, wŷ wedi’i botsio a dail berwr y dŵr (watercress). Cynhwysion: 1 wŷ 5 asparagus 3 darn o facwn Llond llaw o ddail berwr y dŵr 1 llwy…

Pasta, Saws Cashew a Brocoli

Dwi wrth fy modd efo’r rysáit vegan yma. Mae’n syml iawn i’w baratoi ac yn ofnadwy o flasus.  Mae’r rysáit yn gweithio orau os ydych chi’n socian y cnau dros nos. Mae’r rysáit yma ar gyfer dau berson. Cynhwysion; 80g o Basta Cyflawn 50g o gnau Cashew 200ml o ddŵr 100g o frocoli 1 sialotsyn…

Eog, saws soy a mêl

Dwi wedi bod yn ceisio ychwanegu mwy o bysgod i’n neiet dros yr wythnosau diwethaf, felly dyma rysáit eog syml i chi. Mae’r rysáit yma ar gyfer tair ffiled eog. Cynhwysion: Saws Soy Un ewin garlleg Mêl 3 ffiled eog Hadau sesame Dull: Torrwch y garlleg yn fân. Rhowch yr eog mewn dysgl all fynd…

Pesto Gwyrdd

Mae pesto gwyrdd mor hawdd a rhad i’w baratoi does dim angen i chi brynu jar o’r siop. Felly dyma rannu rysáit pesto efo chi. Cynhwysion: 30g o Fasil ffres 50g o gnau Pine Nuts ½ ewin mawr o arlleg Pinsiad o halen 2 lwy fwrdd o olew olewydd Sudd ½ lemwn 1 llwy fwrdd…

Pad Thai

Dyma rysáit am Pad Thai syml, mae’r rysáit yma’n hawdd i’w baratoi ac yn grêt os ydych chi eisiau rhywbeth iachus a chyflym i’w baratoi yn ystod yr wythnos. Os nad ydych yn hoffi corgimychiaid gallwch ddefnyddio cyw iâr. Mae’r rysáit yma’n gwneud digon i ddau: Cynhwysion: 10 Sugar snap peas 1 tsili birds eye…

Hwmws Garlleg Gwyllt

Mae’r tymor ar gyfer garlleg gwyllt yn para o fis Mawrth tan tua Mai. Mae’r blas garlleg yn feddal –  yn wahanol iawn i’r blas cryf sydd mewn ewin o arlleg arferol. Dwi wrth fy modd mynd am dro amser yma o’r flwyddyn ac arogli’r garlleg yn yr awyr – mae’n neud fi isio coginio!…