Mae pesto gwyrdd mor hawdd a rhad i’w baratoi does dim angen i chi brynu jar o’r siop. Felly dyma rannu rysáit pesto efo chi.
Cynhwysion:
30g o Fasil ffres
50g o gnau Pine Nuts
½ ewin mawr o arlleg
Pinsiad o halen
2 lwy fwrdd o olew olewydd
Sudd ½ lemwn
1 llwy fwrdd o gaws parmesan
Dull:
- Rhowch y cynhwysion i gyd mewn prosesydd bwyd a chymysgu yn dda.
- Peidiwch gôr gymysgu.
Fel dywedais i, mae’r rysáit yma’n un syml dros ben!