Uwd Nadolig

Yn aml ar fore Dolig, rhwng yr anrhegion, y quality streets a’r pilio tatws, mae fy nhad yn paratoi crochan o uwd i bawb. Yn ddiddorol iawn; mae o’n licio un fo gyda golden syrup a phupur du! Od iawn, dwi’n gwybod! Ond, cofiwch, mae siwgr a sbeis yn mynd law yn llaw efo’r Nadolig…

Peli Ffrwythau

Gan bod y Nadolig yn agosau, roedden ni’n teimlo y dylen ni greu rysait addas ar gyfer yr ŵyl. A beth well na’r peli bach yma? Maen nhw’n blasu fel ‘Dolig, ac mor hawdd i’w paratoi. Cynhwysion: 100g o raisins 100g o sultanas 100g o prunes 100g o flawd almwnd 1 llwy de o cinnamon…

Spaghetti Macrell, Tomato a Tsili

Pryd rhad, hawdd a chyflym i’w baratoi. Mae’r saws yn barod yn yr amser mae’n cymryd i’r pasta goginio. Dwi wastad yn cadw tinau o facrell neu diwna yn y cwpwrdd er mwyn creu prydau iach pan mae’r ffrij ychydig yn wag. Mae’r pryd yma yn costio llai na £1 y porsiwn. Cynhwysion, digon i…