Eog a nwdls

Dyma bryd syml i’w baratoi, mae’n grêt os ydych chi eisiau rhywbeth hawdd a chyflym yn ystod yr wythnos. Cynhwysion; 1 llwy fwrdd o damari neu soy sauce 1 llwy de o fêl 1 llwy de o olew olewydd Sudd ½ lemwn ½ pupur coch Llond llaw o bys melys sugar snap peas 1 sibolsyn…

Cawl Cyw Iâr a ‘Nwdls’

Cawl ysgafn a blasus i fwynhau wrth i’r tywydd ddechrau oeri. Dwi’n defnyddio corbwmpen yn hytrach na nwdls grawn er mwyn creu pryd sy’n isel mewn carbohydradau, uchel mewn protein a llawn llysiau. Yn fy marn i, mae stoc gartref yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd y pryd gorffenedig. Os gafoch chi rhost cyw iâr…

“Carbonara” Macrell wedi’u fygu

Wedi dwyn ac addasu hwn gan Jamie Oliver. Dewis gwahanol i gig moch ac mae hi wastad yn dda cael mwy o. Mae’n bosib hepgor y macrell a defnyddio tomatos heulsych yn unig i gadw’r pryd yn llysieuol. Cynhwysion 2 ffiled o facrell wedi’i fygu 8 tomato heulsych 150g o bys wedi’u rhewi 2 garlleg…

Bisgedi Almond, Ceirch a Syltana

Pam prynu paced o fisgedi o’r siop pan allwch chi wneud y rhain eich hunain? Maen nhw’n mor hawdd i’w paratoi, ac yn barod mewn ugain munud! Cynhwysion 100g o geirch 80g o flawd almond 1 llwy de o bowdr pobi 1 wy 3 llwy fwrdd o olew cneuen goco wedi toddi 1 llwy fwrdd…

Salad B.L.T

Twist ar B.L.T traddodiadol wrth droi’r frechdan enwog i mewn i salad cynnes. Dwi’n torri lawr ar y carbohydradau wedi’i brosesu drwy ddefnyddio tortillas fel croutons yn hytrach na thafelli cyfan o fara ar gyfer brechdan. Mae’n hollol iawn i chi ddefnyddio unrhyw fath o fara ffes ar gyfer y croutons. Cynwhysion, digon i 2…