Dyma bryd syml i’w baratoi, mae’n grêt os ydych chi eisiau rhywbeth hawdd a chyflym yn ystod yr wythnos.
Cynhwysion;
1 llwy fwrdd o damari neu soy sauce
1 llwy de o fêl
1 llwy de o olew olewydd
Sudd ½ lemwn
½ pupur coch
Llond llaw o bys melys sugar snap peas
1 sibolsyn spring onion
50g o nwdls reis
Dull;
- Cynheswch y popty i 200 gradd.
- Llenwch fowlen â dŵr berwedig, a rhowch y nwdls yn y dŵr am ddau funud.
- Tra mae’r nwdls yn y dŵr sleisiwch y pupur coch a’r sibolsyn.
- Cymysgwch y tamari neu soy sauce, mêl, olew olewydd a’r lemwn mewn powlen. Ychwanegwch y nwdls a’r llysiau at y cymysgedd.
- Torrwch ddarn sgwâr (30cm) o bapur pobi. Rhowch y nwdls a’r eog ar y papur pobi.
- Caewch y papur pobi; plygwch ochrau’r papur gyda’i gilydd a’i roi ar hambwrdd pobi cyn ei roi yn y popty am chwarter awr.
- Tynnwch allan o’r popty, a gweini.
Weithiau mae angen cymysgu’r nwdls a’r saws cyn gweini gan bod y saws yn dueddol o fynd i’r gwaelod.