Dwi’n hoffi’r gwenith yma. Wheatgrain I neu wheat berries yn Saesneg. Mae’n nutty, chewy a mae potyn ohono wedi’i goginio yn handi i gadw yn y ffrij. Dwi’n ychwanegu fo i mewn i uwd, smŵddis, yn ei gymysgu i mewn i iogwrt, neu ei fwyta mewn salad fatha hwn.
Fframwaith ydy’r rysáit yma fwy na dim byd felly peidiwch â chymryd gormod o sylw o’r symiau – chi sy’n gwybod faint ‘dachi isio bwyta! Weithiau mae’n fater o agor y ffrij a defnyddio be sydd angen eu defnyddio.
Mi wneith y salad yma hefyd yn gweithio gyda haidd, pasta, reis neu lentils yn hytrach na’r gwenithfaen.
Cynhwysion:
200g gwenith (wheatgrain), wedi’i goginio yn ôl cyfarwyddiadau’r paced.
200g Ffa gwyrdd
Cynhwysion salad cymysg (e.e. tomatos, ciwcymbr, rhuddugl, bresych coch, afocado, betys, nionyn) wedi’i dorri’n ddarnau bach
Protein o’ch dewis (opsiynol), cyw iâr, macrell wedi’i fygu, eog, wy di ferwi ayyb – wedi’i dorri’n ddarnau
Dresin
Iogwrt, dau llwy fwrdd
Mwstard, llwy de
Mel, llwy de
Olew Olewydd, llwy de
Finegr gwin gwyn / sudd lemwn, llwy fwrdd
Dull:
- Coginiwch y ffa mewn dŵr berwedig am 3-5 munud. Draeniwch a rhedwch nhw o dan dŵr oer i stopio’r broses coginio.
- Cymysgwch cynhwysion y dresin ac ychwanegwch halen a pupur, ac o bosib, mwy o finegr/sudd lemwn i flas.
- Cymysgwch cynhwysion y salad mewn powlen fawr ac ychwanegwch y dresin i orchuddio popeth yn ysgafn.
Mwynhewch!