TOMOS

Pan holodd Lisa i mi oes oedd gena’i ddiddordeb mewn helpu ychydig gyda’i blog newydd, fe neidiais ar y cyfle.
 
Dwi’n licio bwyd. Mae’r diddordeb mewn bwyd a choginio wedi bod gyda mi ers tipyn, a dros y blynyddoedd mae fy repertoire wedi ehangu fesul pryd.
 
Dwi wastad wedi ffafrio bwyd cartref, “go iawn”, fel petai, dros fwyd wedi’i brosesu. Dwi’n mwynhau’r broses o feddwl am ryseitiau newydd a choginio’r prydau am y tro cyntaf. I fi, mae coginio yn therapi – ffordd o ymlacio ar ôl diwrnod o waith neu dros benwythnos tawel.
Dwi’n bell o fod yn efengylaidd dros fy mwyd. Mae bywyd rhy fyr i wrthod rhyw Fars Bar pob hyn a hyn. Serch hynny, sylweddolais nad oeddwn i’n medru dianc o’r ffaith fod bwyta prydau gyda llwyth o galorïau, er gwaethaf pa mor flasus bu’r bwyd, yn fy nhroi i’n dew. Yn 2014, penderfynais newid fy mhatrwm bwyta ac anelu at gadw’n heini ac yn iach. Golygai hyn edrych ar beth oeddwn i’n bwyta ac adnabod yr hyn medrwn wella.
 
Dechreuais goginio bwyd iach ac ysgafn gan ganolbwyntio ar flas, cydbwysedd, a maeth.
 
Yn ogystal â thrawsnewid  fy mhrydau, penderfynais ymarfer corff llawer fwy rheolaidd. Credaf fod llawer o bobl yn naïf i’r cysylltiad rhwng diet ac ymarfer corff – mae yna fwy i fwyta’n iach na phrotein shake ar ôl ymarfer. Yn fy mhrofiad i, mae’r ddau beth yn mynd law yn llaw. Ers i mi ddechrau newid fy ffordd o fyw, dwi’n teimlo llawer mwy egnïol; dwi’n deneuach; dwi’n weddol ffit; a, pwysicach na phopeth arall, dwi’n hapus.
 
Dydw i ddim yn berffaith. Does neb yn berffaith. Mae pawb yn wahanol, a’r hyn sy’n bwysig yw bod yn hapus yn dy hun.
 
Crëwyd Llawn Daioni i gefnogi – nid i ddarlithio. Os oes gennych wir ddiddordeb mewn newid ychydig o’ch arferion, dwi’n mawr obeithio y bydd Lisa a finnau yn gallu helpu gyda ryseitiau iach a hawdd i baratoi.
Y peth pwysicaf yw eich bod yn mwynhau’r broses o goginio!