Cawl Moron a Coriandr

Dyma gawl syml sy’n gyfuniad clasurol a’n ffefryn yn tŷ ni! amser yma o’r flwyddyn dwi’n tueddi i neud llond crochan o gawl ar ddechrau’r wythnos – perffaith ar gyfer mynd efo chi i’r gwaith. Dwi’n defnyddio’r sbeis coriander yn hytrach na’r perlysieuyn oherwydd dwi’n chwilio am flas twfn a chynnes i’r cawl. Mae yna…

Risotto Pwmpen + Briwsion Rhosmari

Mae risotto yn rysáit defnyddiol iawn i gadw fyny eich llewys – efallai neith o gymryd ychydig o ymarfer ond mae’r canlyniad bob amser werth yr ymdrech! Mae’n hawdd addasu’r rysáit ar gyfer y tymhorau. Pys ac asbaragws yn y Gwanwyn neu domatos melys yn yr haf. Dwi’n defnyddio pwmpen ond mae butternut squash yn…

Selsig, Stiw Ffa Gwyn a Sbigoglys

Swper syml sy’n barod mewn tua 20 munud. Mae’n well defnyddio selsig sydd efo dipyn o sbeis! Bysa rhywbeth fel cumberland yn ddewis da. I fwydo 2. Cynhwysion; 4 selsig o ansawdd da. 4 tomato 1 tin 400g o ffa cannellini, wedi’i ddraenio 1 nionyn, wedi’i dorri’n ddarnau bach 1 ewyn garlleg, wedi’u dorri’n fân…

Orecchiette, ffa rhedwr a tomatos

Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor. Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben…

Salad Moron + “whip” Caws Gafr

Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn…

Salad Haidd Gwyn

Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio grawn gwahanol wrth goginio ac mae haidd gwyn (neu pearl barley) yn un o fy ffefrynnau. Prynwch y fersiwn “quick cook” sy’n barod mewn 10-15 munud. Mae’r salad yma’n ysgafn ond yn swmpus; union be dwi’n hoffi bwyta ar fy awr ginio. Os ydych am baratoi hwn i gael i…

Crempogau Rhug, Siocled ac Oren

Gwledd melys i frecwast sy’n iawn bob hyn a hyn. Dwi’n hoffi’r cyfuniad o flawd rhug efo siocled – mae o’n ychwanegu lefel ychwanegol o flas i’r crempogau gyda’ blas siocled oren cyfarwydd. Defnyddiwch blawd plaen cyflawn os dydy blawd rhug ddim ar gael. Digon i wneud 6-8 crempog. Cynhwysion: 125g blawd rhug 50g blawd…

Peli Twrci efo Saws Cyri

Mae’r saws cyri yma yn debyg i’r saws ti’n cael mewn cyri katsu Siapaneaidd. Mae’r gair katsu yn cyfeirio at frest cyw iâr wedi’i ffrio mewn briwsion panko. Mae’r peli twrci yma hefyd yn wych mewn bocs bwyd efo coleslaw ffres. I fwydo 4. Cynhwysion: I’r peli cig –    Mins twrci, 500g    Briwsion…

Ratatouille efo couscous mawr

Mae hwn yn bryd yn ei hun ac mae’r cyfan yn digwydd mewn un pot! Mae ratatouille yn  hyfryd yn ei hun ond dwi wedi ychwanegu ychydig o couscous i wneud y pryd yn un mwy swmpus. Gallwch brynu couscous mawr (giant couscous / Israeli couscous) mewn archfarchnadoedd mawr. Gallwch ddefnyddio orzo neu hyd yn…

Fusilli efo Saws Brocoli

Mae hwn yn bryd hyfryd sy’n defnyddio’r brocoli cyfan. Mae’r saws yn gweithio gydag amryw o lysiau gwyrdd fel cêl a bresych. I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 160g o fusili 50g cnau Ffrengig (walnuts) Un brocoli cyfan Ewyn o arlleg wedi’u blicio Olew olewydd Lemwn Pinsiad o tsili sych Parmesan (os oes eisiau) Dull; Torrwch…

Cawl Moron a Sinsir

Mae’r tywydd yn oeri, felly mae hi’n amser am rysait i’ch cynhesu chi!  Dyma gawl syml, ac yn hytrach nag ychwanegu croutons beth am ychwanegu ffacbys wedi rhostio? Mae’r rysait yma yn gwneud digon ar gyfer pum powlen o gawl. Cynhwysion: Ar gyfer y cawl: 1kg o foron 3 ewyn garlleg 1 nionyn 1 darn…

Marinad Cajun

Dyma farinad Cajun syml, does dim angen prynu’r marinad maen nhw’n werthu yn y siopau pan y gallwch ei wneud eich hunain efo sbeisys sydd yn y cwpwrdd yn barod! Mae’r rysait yma’n ddigon ar gyfer dau ddarn o gig neu bysgodyn. Cynhwysion: 1 llwy fwrdd o baprica 1/2 llwy de o bowdr garlleg 1…