Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor. Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben…
Mis: Awst 2019
Salad Moron + “whip” Caws Gafr
Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn…