Tysen Felys wedi ei llenwi

Mae’r pryd yma’n hawdd ac yn flasus.  Mae tatws melys yn llawn maeth, maen nhw’n llawn fitamin A a B, ffibr a photasiwm.  Mae’r rysait isod ar gyfer un person. Cynhwysion: 1 tysen felys 2 sleisan o facwn 1 llwy fwrdd o iogwrt llond llaw o sbigoglys (spinach) 1 spring onion Mozzarella Dull: Cynheswch y popty i 230. …

Byrgyr Ffa Du a Chnau Castan

“Black Bean & Chestnut Burger” Oni (Tomos!) ffansi newid pethe a dod fyny efo fwy o ryseitiau llysieuol. Hwn yn ticio pob un bocs i fi. Mae barn pawb ar sut i adeiladu’r byrgyr delfrydol yn wahanol!! Yn bersonol os oes rhywun yn rhoi sos coch ar fy myrgyr i, mae o’n cael fflich at…

Peli Ceirch

Mae’r peli ceirch yma’n gret os ydych awydd rhywbeth melys. Dw i’n ychwanegu siocled du. Pan yn prynu siocled du byddaf yn gwneud yn siwr fy mod yn prynu siocled du o ansawdd, sydd yn cynnwys o leiaf 70% o cocoa.  Mae’n well i chi na siocled cyffredin ac yn fwy maethlon. Cynhwysion; 150g o geirch…

Salad Quinoa

Mae’r salad yma’n grêt ac yn cadw’n dda yn yr oergell am ddiwrnod neu ddau. Mae’n bosib defnyddio unrhyw lysiau/ffrwythau/cnau yn y salad. Fel arfer byddaf yn defnyddio beth bynnag sydd gen i dros ben yn yr oergell. Cynhwysion; 125g o Quinoa Llond llaw o radish Llond llaw o sugarsnap peas Tun bach o bys melyn…

Crympets, Ricotta a Compot Llus

Dyma rysait perffaith ar gyfer Sul y Mamau. Cynhwysion; 2 grympet 2 lwy bwdin o ricotta 1/2 llwy de o fanila – dwi wedi defnyddio past fanila Llond llaw o lus (ffres neu wedi’u rhewi) 2 lwy de o fêl/surop agave/surop maple Dull; Rhowch y llus mewn powlen addas a’u rhoi yn y meicrodon am funud cyn…

Cennin wedi’u Crasu

Mae hi’n Ddydd Gŵyl Dewi felly beth gwell i’w goginio na’n llysieuyn cenedlaethol! Mae hwn yn bryd llysieuol hawdd i’w baratoi. Mae’n bryd ynddo’i hun neu gallwch ei weini gyda ffiled o bysgodyn gwyn neu gyw iâr wedi rhostio. Cynhwysion (digon ar gyfer pryd i un) 2 Genhinen 5 Cneuen Cyll (Hazelnuts) Pecorino (neu unrhyw…