Dyma rysait perffaith ar gyfer Sul y Mamau.
Cynhwysion;
2 grympet
2 lwy bwdin o ricotta
1/2 llwy de o fanila – dwi wedi defnyddio past fanila
Llond llaw o lus (ffres neu wedi’u rhewi)
2 lwy de o fêl/surop agave/surop maple
Dull;
- Rhowch y llus mewn powlen addas a’u rhoi yn y meicrodon am funud cyn ychwanaegu 1 llwy de o fêl.
- Cymysgwch y fanila, gweddill y mêl a’r ricotta.
- Tostiwch y crympets.
- Taenwch y cymysgedd ricotta ar y crympets ac yna arllwys y llus cynnes ar y top.
Neis efo paned!
This one sure looks tempting 🙂