Mae hi’n Ddydd Gŵyl Dewi felly beth gwell i’w goginio na’n llysieuyn cenedlaethol!
Mae hwn yn bryd llysieuol hawdd i’w baratoi. Mae’n bryd ynddo’i hun neu gallwch ei weini gyda ffiled o bysgodyn gwyn neu gyw iâr wedi rhostio.
Cynhwysion (digon ar gyfer pryd i un)
2 Genhinen
5 Cneuen Cyll (Hazelnuts)
Pecorino (neu unrhyw gaws caled arall; parmesan neu cheddar) – dibynnu faint o gaws ydych chi’n hoffi!
1 llwy de o Olew Olewydd
Halen a Phupur
Dull;
- Torrwch y rhan fwyaf o ddail gwyrdd y cennin (gallwch eu cadw i wneud cawl).
- Craswch y cennin dan y gril ar wres uchel, am 15 – 20 munud (dibynnu ar faint y cennin). Trowch y cennin bob 5 munud er mwyn sicrhau bod y cyfan yn crasu. Bydd tu allan y cennin yn llosgi a’r tu mewn yn stemio.
- Gadewch i’r cennin oeri am funud cyn tynnu’r yr haen sydd wedi llosgi a bydd hyn yn gadael cennin meddal a melys.
- Holltwch y cennin lawr y canol ag ychwanegu halen ac ychydig o olew olewydd a’i weini ar blât cynnes
- Gratiwch y cnau a’r caws dros y plât a’i weini yn syth.
Mae’n hawdd dyblu’r rysáit yma os am fwy o gennin!
One Comment Add yours