Salad cynnes sydd, yn fy marn i, yn dod a’r gorau allan o bob cynhwysyn. Mae sumac yn sbeis o’r dwyrain canol sydd efo blas sur. Mae’n mynd yn dda efo cyw iâr neu mewn tabbouleh. Mae o werth ei drio! Mae’r picl nionyn cyflym yn cadw yn y ffrij am tua 4 diwrnod. I…
Mis: Hydref 2017
Spaghetti Corgimwch
Pasta syml sy’n sy’n barod mewn tua 10 munud! Mi wnes i ddefnyddio corgimwch wedi’i rhewi ar gyfer y rysáit yma. Gallwch ddefnyddio cranc allan o dun neu gallwch ddefnyddio darnau o frocoli i gadw’r pryd yn llysieuol (ac yn fegan). I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 160g o spaghetti 100g corgimwch amrwd Llond llaw o…
Myffins Llus Sawrus
Mae’r rhain yn grêt os nad ydych awydd rhywbeth rhy felys i frecwast. Maen nhw’n cadw mewn tun, neu focs am hyd at 5 diwrnod. Maen nhw ar eu gorau os cânt eu cynhesu yn y microdon am ychydig eiliadau cyn eu bwyta! Byddwch angen hambwrdd cacennau bach neu fyffins ar gyfer y rysáit yma….
Jeli Afal a Iogwrt
Rhywbeth ysgafn a gwahanol i frecwast. Mae’n hawdd i’w baratoi – paratowch y noson cynt a fydd y jeli’n barod i fwyta yn y bore. Cadwch y jeli mewn jariau i fynd i’ch gwaith. Cynhwysion; 450ml sudd afal naturiol (hynny yw, nid “from concentrate” – sudd afal lleol fysa’n ddelfrydol, os nad un lleol, defnyddiwch…