Cawl hiraethus sy’n blasu mor gyfarwydd. Mae’r afal a’r llysiau melys yn gwneud i’r cawl flasu fel tun o gawl Heinz – sydd yn beth da!
Dwi’n defnyddio pasta siâp anifeiliaid i fod yn ciwt ond defnyddiwch unrhyw basta bach fel macaroni, orzo, neu basta arferol wedi’i dorri’n ddarnau bach.
Mae’n hawdd iawn gwneud y cawl yma’n fegan; peidiwch â chynnwys y menyn a’r croen parmesan.
Mae’r isod ar gyfer 6 porsiwn.
Cynhwysion;
Llwy fwrdd o olew olewydd
LLwy de o fenyn
Dwy nionyn wen, wedi’i phlicio a’i thorri’n denau
Un Cennyn, wedi’i dorri’n denau
Un foronen, wedi’i phlicio a’i thorri’n denau
Dwy nionyn wen, wedi’i phlicio a’i thorri’n denau
Un cenhinen, wedi’i dorri’n denau
Un coesyn seleri, wedii=’i dorri’n denau
Un ewin garlleg, wedi’i dorri’n denau
Un afal, wedi’i blicio a’i dorri’n denau
Llwy fwrdd o bast tomato
3 tun o domatos
100ml o laeth
Basil ffres, llond llaw
Llwy de o oregano sych
Llwy de o siwgr
400g o basta bach
Halen a phupur
Dull;
- Cynheswch sosban fawr ar wres canolig cyn ychwanegu’r olew a’r menyn. Coginiwch y nionyn, cenhinen, y seleri, moron, afal, a’r garlleg am tua 10 munud heb liw.
- Ychwanegwch y past tomato a’r oregano sych a choginiwch am 2 funud ychwanegol.
- Ychwanegwch 3 tun o domatos a llenwch y tuniau gwag gyda dŵr cyn eu hychwanegu i’r cawl. Ychwanegwch y llaeth, y basil a’r croen parmesan (os yn defnyddio) a choginiwch am tua 10 munud neu tan mae’r holl lysiau yn feddal. Ychwanegwch y siwgr a phinsiad o halen a phupur i flas.
- Blendiwch y cawl gyda blendr llaw tan yn llyfn. Ychwanegwch tua 500ml o ddŵr i’r cawl. Bydd y cawl yn edrych yn denau ond bydd startsh y pasta yn tewychu’r cawl yn sylweddol.
- Ychwanegwch y pasta a choginiwch yn y cawl am tua 10 munud gan gofio i droi’r cyfan yn aml i osgoi’r pasta sticio i waelod y sosban.
- Ychwanegwch halen i flas. Gwaenwch gydag ychydig o fasil a pharmesan ffres.