Dwi erioed wedi deall yr holl atgasedd tuag at sbrowts! Bosib fod hen atgofion o sbrowts wedi’u berwi am oriau ag oriau yn dal i hel ofn i dipyn o bobl. Ta beth, dyma bryd ffres ac ysgafn i gael cyn neu ar ôl bwyd trwm y Dolig.
Eith y salad yma yn wych gydag unrhyw gig oer sy’n weddill ar ôl Dolig.
I fwydo dau fel prif gwrs; 4 fel starter
Cynhwysion:
500g Sbrowts
150g cous cous – wedi’u coginio yn ôl cyfarwyddiadau’r paced.
Tua 50g o hadau pomgranad
Dwy frest hwyaden
Mintys ffres
Persli ffres
50g o domatos bach
Olew olewydd
Un lemwn
Un clementin
Dull;
- Sgoriwch groen y brestiau hwyaden mewn patrwm croes. Rhowch y brestiau mewn padell ffrio oer, sych, ar ochr y croen – codwch y gwres yn raddol i wres canolig a choginiwch am 8-10 munud neu tan mae’r croen yn edrych yn grisp. Coginiwch ar yr ochr arall am 2-3 munud a gadewch iddynt sefyll am ychydig.
- Sleisiwch y sbrowts mor fân â phosib – dwi’n defnyddio prosesydd bwyd ond mi wneith cyllell finiog weithio hefyd.
- Cymysgwch y sbrowts gyda’r cous cous, y tomatos, y perlysiau ffres a zest y lemwn. Ychwanegwch ychydig o olew olewydd (neu lwyaid o fraster cynnes yr hwyaden) a’r sudd lemwn a clementin. halen a phupur i flas. Rhannwch y salad rhwng eich powlenni.
- Sleiswch yr hwyaden a rhowch ar ben y salad sbrowts.