Dwi erioed wedi deall yr holl atgasedd tuag at sbrowts! Bosib fod hen atgofion o sbrowts wedi’u berwi am oriau ag oriau yn dal i hel ofn i dipyn o bobl. Ta beth, dyma bryd ffres ac ysgafn i gael cyn neu ar ôl bwyd trwm y Dolig. Eith y salad yma yn wych gydag…
Tag: Salad
Salad Moron + “whip” Caws Gafr
Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn…
Salad Haidd Gwyn
Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio grawn gwahanol wrth goginio ac mae haidd gwyn (neu pearl barley) yn un o fy ffefrynnau. Prynwch y fersiwn “quick cook” sy’n barod mewn 10-15 munud. Mae’r salad yma’n ysgafn ond yn swmpus; union be dwi’n hoffi bwyta ar fy awr ginio. Os ydych am baratoi hwn i gael i…
Tatws Newydd efo Macrell a Dil
Rydyn ni ar ddechrau’r tymor tatws jersey royals felly cymrwch fantais o’u hargaeledd yn y siopau i greu’r rysáit Sgandinafaidd hon! I fwydo 2-4. Cynhwysion; 1kg o datws jersey royal (neu unrhyw datws newydd arall) Tua 300g o facrell wedi’i fygu Llond llaw o ruddygl (radish) Llond llaw o ddil ffres Tair llwy fwrdd o…
Remoulade Seleriac efo ham Parma
Ffordd ffres i ddefnyddio seleriac. Mae o’n mynd yn wych gydag unrhyw gig parod neu eog / macrell wedi’i fygu Dwi’n defnyddio iogwrt naturiol yn hytrach na mayonnaise nid yn unig er mwyn torri lawr ar y calorïau ond i wneud y remoulade flasu’n ysgafnach. Cynhwysion; Seleriac Dwy lwy fwrdd Iogwrt Naturiol Dwy lwy de…
Salad Nwdls
Dyma rysait (ddim yn siwr os alla i ei alw’n rysait am ei fod mor syml!) am salad nwdls syml sydd ddim yn cymryd llawer i’r baratoi a ddim yn golygu llawer o goginio! Mae’n cadw yn yr oergell am ychydig ddiwrnodau, ac yn gret ar gyfer bocs bwyd. Digon i 4 Cynhwysion: 2 stecen (nes i…
Salad Pwmpen, Cig Oen Crisp a Persli
Salad cynnes sydd, yn fy marn i, yn dod a’r gorau allan o bob cynhwysyn. Mae sumac yn sbeis o’r dwyrain canol sydd efo blas sur. Mae’n mynd yn dda efo cyw iâr neu mewn tabbouleh. Mae o werth ei drio! Mae’r picl nionyn cyflym yn cadw yn y ffrij am tua 4 diwrnod. I…
Hwyaden efo pomgranad a peanut
Pryd ysgafn a lliwgar i’w baratoi pan mae’r haul yn tywynnu! Gallwch newid y cig os hoffwch chi – mae’n wych gyda chyw iâr, cig eidion, cig oen , porc neu hyd yn oed eog! Os nad ydych yn gallu dod o hyd i driog pomgranad; defnyddiwch ychydig o saws tamarind neu saws hoisin yn ei…
Salad ffenigl ac asbaragws
Salad ffres sy’n gwneud y mwyaf o rhai o lysiau orau’r Gwanwyn / Haf. Mae hwn yn wych gyda chig wedi’i grilio neu ar fruschetta. I fwydo 4. Cynhwysion; 1 Ffenigl 250g asbaragws 150g o domatos Llond llaw o fintys ffres Lemwn – zest a sudd Tsili – ffres neu sych (opsiynnol) Olew olewydd extra…