Gwledd melys i frecwast sy’n iawn bob hyn a hyn. Dwi’n hoffi’r cyfuniad o flawd rhug efo siocled – mae o’n ychwanegu lefel ychwanegol o flas i’r crempogau gyda’ blas siocled oren cyfarwydd. Defnyddiwch blawd plaen cyflawn os dydy blawd rhug ddim ar gael. Digon i wneud 6-8 crempog. Cynhwysion: 125g blawd rhug 50g blawd…
Categori: BRECWAST
Crempogau Banana Bach
Rhywbeth gwahanol i ddiwrnod crempog ond mae hwn yn neis unrhyw adeg o’r flwyddyn – enwedig i frecwast neu “brunch”. Mae’r banana sych wedi’u malu yn ychwanegu crunch da fysa hefyd yn dda iawn ar ben uwd. Gefais i rywbeth tebyg i hwn tra ar wyliau yn Awstralia – y gwahaniaeth fwyaf oedd medru bwyta’r…
Smwddi Pîn Afal, Sbigoglys a Ciwcymbr
Eisiau mwy o faeth yn eich deiet? Pam ddim dechrau’r diwrnod efo’r smwddi syml yma? Cynhwysion 100g o Bîn Afal 25g o Sbigoglys 50g o Gwicymbr 50ml o Ddŵr Dull Rhowch y cyfan yn y peiriant smwddi a chymysgu. Syml!
Myffins Llus Sawrus
Mae’r rhain yn grêt os nad ydych awydd rhywbeth rhy felys i frecwast. Maen nhw’n cadw mewn tun, neu focs am hyd at 5 diwrnod. Maen nhw ar eu gorau os cânt eu cynhesu yn y microdon am ychydig eiliadau cyn eu bwyta! Byddwch angen hambwrdd cacennau bach neu fyffins ar gyfer y rysáit yma….
Jeli Afal a Iogwrt
Rhywbeth ysgafn a gwahanol i frecwast. Mae’n hawdd i’w baratoi – paratowch y noson cynt a fydd y jeli’n barod i fwyta yn y bore. Cadwch y jeli mewn jariau i fynd i’ch gwaith. Cynhwysion; 450ml sudd afal naturiol (hynny yw, nid “from concentrate” – sudd afal lleol fysa’n ddelfrydol, os nad un lleol, defnyddiwch…
Cacennau Pys a Parmesan
Byddai’r cacennau pys a parmesan yma’n gret ar gyfer brecwast neu brunch! Cynhwysion: 100g o bys wedi rhewi 25g o gaws parmesan wedi ei gratio ½ shibwn spring onion wedi ei dorri’n fân 1 ŵy bach wedi’i gnocio 25g o flawd Pinsiad o halen Llwy fwrdd o olew olewydd Dull: Rhowch y pys…
Tacos Wy a “Pico de Gallo”
Mae geni obsesiwn bach efo tacos! Dwi wrth fyd modd gyda nhw a dwi’n mwynhau’r tacos wy yma i frecwast neu fel brunch. Mae’r pico de gallo yn mynd efo pob dim felly newidiwch y protein i mewn i borc, cyw iâr, pysgodyn neu hyd yn oed ffa du. Mae’r enw yn golygu pig ceiliog…
Tameidiau Cneuen Goco
Cynhwysion: 200g o ddatys dates heb y garreg. 50g + 1 llwy fwrdd o gneuen goco wedi sychu a’i dorri’n fân 4 llwy fwrdd o peanut butter 20g o lugaeron sych Byddwch angen prosesydd bwyd reit fawr i baratoi’r rysáit yma. Dull: Rhowch y datys yn y prosesydd bwyd gyda 4 llwy fwrdd o ddŵr…
Asparagus, Bacwn ac Wŷ
Efo’r tywydd mor braf roeddwn i’n meddwl y byddai pryd ysgafn syml o ddiddordeb i rai ohonoch chi’r wythnos yma, felly dyma jesd y peth! Asparagus wedi’u rhostio, wŷ wedi’i botsio a dail berwr y dŵr (watercress). Cynhwysion: 1 wŷ 5 asparagus 3 darn o facwn Llond llaw o ddail berwr y dŵr 1 llwy…
Pwdin Chia – mango, banana a sinsir.
Mae hwn yn frecwast iach, lliwgar a ffres. Mae hadau chia llawn ffibr a phrotein sy’n mynd yn wych gyda ffrwythau. Newidiwch y mango i binafal neu defnyddiwch sudd afal yn hytrach na llaeth i weld pa gyfuniad sy’n plesio chi. Digon i 1 Cynhwysion; 1 mango aeddfed 4 lwy fwrdd o hadau chia 1…
Selsig Cartref
Weithiau mae tarddiad rysáit newydd yn gallu dod o lefydd annisgwyl. Yr ysbrydoliaeth i hwn ydy’r math o selsig rydych yn cael mewn “Sausage McMuffin” o McDonalds i frecwast. Dydw i ddim yn mynychu McDonalds yn aml ond mae gen i atgofion go felys o’r fwydlen brecwast! Mae hwn hefyd yn wych i rheina ohonoch…
Uwd Nadolig
Yn aml ar fore Dolig, rhwng yr anrhegion, y quality streets a’r pilio tatws, mae fy nhad yn paratoi crochan o uwd i bawb. Yn ddiddorol iawn; mae o’n licio un fo gyda golden syrup a phupur du! Od iawn, dwi’n gwybod! Ond, cofiwch, mae siwgr a sbeis yn mynd law yn llaw efo’r Nadolig…