Yn aml ar fore Dolig, rhwng yr anrhegion, y quality streets a’r pilio tatws, mae fy nhad yn paratoi crochan o uwd i bawb. Yn ddiddorol iawn; mae o’n licio un fo gyda golden syrup a phupur du! Od iawn, dwi’n gwybod! Ond, cofiwch, mae siwgr a sbeis yn mynd law yn llaw efo’r Nadolig – sy’n arwain ni ‘mlaen i’r rysáit hon. Ar ôl prynu jar o mincemeat efo’r bwriad o wneud mince pies fy hun (y bwriad, ond nid mae gen i ofn, yr amynedd), mi arbrofais efo llwyad bach o’r llenwad wedi’i gymysgu i mewn i fy uwd. Mae’r blas mor gartrefol ac mae’n llwydo i gynhesu chi ar fore oer.
Mae pobi’r uwd yn cael gwared â’r strach o orfod ei gymysgu ar ben y stôf – mae ‘mond yn fater o gymysgu’r cynhwysion a gadael i’r ffwrn neud y gwaith. Mae’n bosib addasu’r rysáit hon at ddaint pawb – gwnewch un mawr, plaen a gadewch i bawb helpu eu hunain i bowlenni o ffrwythau, cnau a jam.
O.N. Peidiwch â defnyddio’r mincemeat fel jam – mae angen ei goginio er mwyn toddi’r suet.
Digon i bedwar.
Cynhwysion;
75g o geirch – dwi’n hoffi rhai organic Flahavan’s
400ml llaeth
2 lwy fwrdd o mincemeat o answadd da
1 afal bwyta wedi’i dorri’n fân
Llond llaw o gnau pecans
Llwy fwrdd o suop agave neu maple
Llond llaw o hadau pomgranad
Dull;
- Cynheswch y ffwrn i 190 gradd c.
- Cymysgwch y ceirch, llaeth, mincemeat a’r afal mewn dysgl pobi addas cyn ei rhoi yn ffwrn i bobi am 30 munud.
- Ar ôl 15 munud, cymysgwch yr uwd yn dda cyn ei ddychwelyd yn ôl i’r ffwrn am 15 munud arall.
- Cymysgwch y cnau gyda’r surop cyn eu gwasgaru ar ben yr uwd. Coginiwch am 5 munud er mwyn tostio’r cnau.
- Gwasgarwch yr hadau pomgranad ar ben yr uwd cyn gweini.