Mae hwn yn frecwast iach, lliwgar a ffres. Mae hadau chia llawn ffibr a phrotein sy’n mynd yn wych gyda ffrwythau. Newidiwch y mango i binafal neu defnyddiwch sudd afal yn hytrach na llaeth i weld pa gyfuniad sy’n plesio chi.
Digon i 1
Cynhwysion;
1 mango aeddfed
4 lwy fwrdd o hadau chia
1 banana aeddfed
350 ml llaeth o’ch dewis chi (llaeth buwch, almwnd, reis ayyb)
Iogwrt naturiol
Llwy de o sinsir
Hadau pomgranad
Dull;
- Rhowch gnawd y mango mewn blendr er mwyn creu piwrî. Cadwch y piwrî mango mewn jar yn y ffrij – mae’n wych mewn efo iogwrt naturiol neu mewn smwddi.
- Rhowch y llaeth, banana, sinsir a dwy lwy fwrdd o’r piwrî mango mewn blendr i greu smwddi. Rhowch y cymysgedd mewn powlen fawr.
- Ychwanegwch yr hadau chia a chymysgwch popeth yn dda.
- Gorchuddiwch y bowlen gyda cling ffilm a rhowch yn y ffrij am o leiaf 4 awr neu dros nos. Bydd angen cymysgu’r pwdin ar ôl yr awr gyntaf er mwyn gwneud yn siŵr fod yr hadau ddim yn cymysgu i mewn i glympiau mawr.
- Rŵan ydy’r amser i adeiladu’r haenau. Dechreuwch gydag ychydig o biwrî mango ar waelod eich jar. Yna rhowch haenen o’r iogwrt naturiol ac ychydig o’r hadau pomgranad. Dilynwch hwn gyda’r cymysgedd pwdin chia. Gorffennwch drwy roi haenen arall o’r piwrî mango mwy o’r hadau pomgranad.