Crempogau Rhug, Siocled ac Oren

Gwledd melys i frecwast sy’n iawn bob hyn a hyn.

Dwi’n hoffi’r cyfuniad o flawd rhug efo siocled – mae o’n ychwanegu lefel ychwanegol o flas i’r crempogau gyda’ blas siocled oren cyfarwydd. Defnyddiwch blawd plaen cyflawn os dydy blawd rhug ddim ar gael.

Digon i wneud 6-8 crempog.

Cynhwysion:

125g blawd rhug

50g blawd codi

25g powdwr coco

Soda pobi, llwy de

Siwgr, llwy fwrdd

2 oren, zest

2 wy, wedi’u curo

Iogwrt plaen, dau lwy fwdd

200ml llaeth

Olew olewydd / had rêp, llwy fwrdd

Surop maple, i weini

Dull:

  1. Rhowch y blawd, y powdwr coco, y soda pobi, y siwgr, a phinsiad bach halen mewn powlen cymysgu a defnyddiwch wisg i gymysgu’r cyfan yn dda.
  2. Ychwanegwch yr wyau a’r iogwrt  a defnyddiwch lwy bren i gymysgu’r cyfan yn dda cyn ychwanegu’r llaeth – fe ddylai’r cymysgedd fod yn weddol dew (tebyg i gymysgedd cacen spwnj).
  3. Cynheswch badell ffrio non-stick ar wres canolig isel coginiwch y crempogau  am tua 1-2 funud bob ochr. Mae’r crempogau yn barod i droi unwaith y gwelwch bybls yn ffurfio ar ben y grempog.
  4. Gweinwch efo ychydig o surop maple a gratiad o zest oren.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s