Weithiau mae tarddiad rysáit newydd yn gallu dod o lefydd annisgwyl. Yr ysbrydoliaeth i hwn ydy’r math o selsig rydych yn cael mewn “Sausage McMuffin” o McDonalds i frecwast. Dydw i ddim yn mynychu McDonalds yn aml ond mae gen i atgofion go felys o’r fwydlen brecwast!
Mae hwn hefyd yn wych i rheina ohonoch chi sydd angen mesur eich protein i’r gram.
Cynhwysion;
500g o borc wedi’i finsio
1.5 lwy de o halen
2 lwy de o bupur du
1 lwy de o mace
2 lwy de o sage sych (neu llwy fwrdd o sage ffres)
1/2 lwy de o oregano sych
Zest lemwn
100g o friwsion bara (opsiynnol)
Dull;
- Cymysgwch y cynhwysion i gyd mewn bowlen fawr.
- Gorchuddiwch a chadwch y cymysgedd dros nos i’r blasau gymysgu.
- Siapiwch y porc i mewn i patis tua 1cm drwch a choginiwch ar wres canolig am 3-5 munud yr ochr mewn padell ffrio efo llwy de o olew.
- Gweinwch gydag wy wedi’i ffrio neu’i botsio, sbigoglys ac afocado. Neu…… rhowch o mewn myffin!