Rhywbeth ysgafn a gwahanol i frecwast. Mae’n hawdd i’w baratoi – paratowch y noson cynt a fydd y jeli’n barod i fwyta yn y bore. Cadwch y jeli mewn jariau i fynd i’ch gwaith.
Cynhwysion;
450ml sudd afal naturiol (hynny yw, nid “from concentrate” – sudd afal lleol fysa’n ddelfrydol, os nad un lleol, defnyddiwch rywbeth fel Copella neu Inoccent.)
150ml iogwrt naturiol
4 deilen gelatine
Dull;
- Sociwch y dail gelatine mewn dŵr oer am ychydig o funudau er mwyn eu meddalu.
- Cynheswch tua 100ml o’r sudd afal mewn sosban ond cymerwch ofal i beidio ei ferwi. Tynnwch y dail gelatine allan o’r dŵr oer gan wasgu allan cymaint o ddŵr allan a phosib – ychwanegwch hwn i’r sudd afal poeth a chymysgwch y cyfan yn dda tan i’r gelatine doddi.
- Ychwanegwch y cymysgedd afal a gelatine poeth i weddill y sudd afal mewn powlen fawr cyn ychwanegu’r iogwrt. Cymysgwch y cyfan ac yna mae’n barod osod yn yr oergell am ta 8 awr neu dros nos. Dwi’n tueddu i rannu’r cymysgedd i mewn i jariau neu bowlenni bach er mwyn cael nhw’n barod i fynd yn y boreau.
- Topiwch y jeli efo be liciwch chi – dwi’n hoffi ychydig o fêl, paill gwenyn ac ychydig o granola.