Mae geni obsesiwn bach efo tacos! Dwi wrth fyd modd gyda nhw a dwi’n mwynhau’r tacos wy yma i frecwast neu fel brunch.
Mae’r pico de gallo yn mynd efo pob dim felly newidiwch y protein i mewn i borc, cyw iâr, pysgodyn neu hyd yn oed ffa du. Mae’r enw yn golygu pig ceiliog mewn Sbaeneg – efallai oherwydd bod y tsili yn eich deffro yn y boreau run fath a chlochdar ceiliog!
I fwydo 2 (3 taco yr un)
Cynhwysion;
6 wy ffres
6 tortilla meddal bach (dwi’n licio tortillas blawd a corn Wahaca sydd ar werth yn Tescos)
4 tomato canolig
Tsili (i flas)
Hanner winiwn / nionyn
Llond llaw o goriander ffres
Leim
Paprica
Cumin
Menyn
Dull;
- Dechreuwch gyda’r pico de gallo. Torrwch y nionyn, tomatos, tsili a’r coriander yn fân a rhowch mewn bowlen addas. Gwasgwch sudd hanner leim dros y cyfan cyn ychwanegu halen i flas. rhowch i un ochr tra eich bod yn paratoi’r wyau.
- Chwisgiwch yr wyau gyda phinsiad o baprica, cumin a halen a phupur.
- Cynheswch lwy de o fenyn mewn padell ffrio “non-stick” ar wres canolig gyda llwy de o olew olewydd/had rêp. Unwaith i’r menyn doddi, ychwanegwch y cymysgedd wyau i’w sgramblo.
- Cynheswch y tortillas unai mewn microdon, mewn padell ffrio sych, neu dros fflamiau’r hob nwy (hyn rydw i’n tueddu i neud ond byddwch yn ofalus!).
- Rhannwch yr wyau wedi sgramblo rhwng y tortillas a thopiwch gydag ychydig o’r pico de gallo.
Ychwanegwch ychydig o gaws neu afocado os ydych yn teimlo fel gwneud!