Rhywbeth gwahanol i ddiwrnod crempog ond mae hwn yn neis unrhyw adeg o’r flwyddyn – enwedig i frecwast neu “brunch”.
Mae’r banana sych wedi’u malu yn ychwanegu crunch da fysa hefyd yn dda iawn ar ben uwd.
Gefais i rywbeth tebyg i hwn tra ar wyliau yn Awstralia – y gwahaniaeth fwyaf oedd medru bwyta’r crempogau tu allan adeg yma o’r flwyddyn!
Cynhwysion;
Mwg o flawd
Mwg o laeth
1 wy
1 banana mawr
Llwy fwrdd o sigwr brown
Llwy fwrdd o olew
Llond llaw o tsips banana sych
Iogwrt plaen
Surop maple
Dull;
- Rhowch y blawd, powdr pobi, siwgr, pinsiad bach o halen, yr olew, y llaeth a’r wy mewn bowlen a chymysgwch y cyfan efo chwisg.
- Rhowch y banana ffres mewn bowlen a maliwch gyda fforc tan yn llyfn. Cymysgwch hwn i mewn i’r cymysgedd crempog.
- Defnyddiwch forter a phestl i falu’r banana sych yn fân. Ychwanegwch ran fwyaf o’r blawd banana yma i’r cymysgedd crempog gan gadw ychydig yn ôl ar gyfer addurno.
- Cynheswch badell ffrio ar wres canolig isel a defnyddiwch lwy bwdin i greu crempogau bach – coginiwch am 1-2 funud bob ochr.
- Gweinwch efo iogwrt, ychydig o surop maple a phinsiad o’r blawd banana sych.