Mae’r rhain yn grêt os nad ydych awydd rhywbeth rhy felys i frecwast. Maen nhw’n cadw mewn tun, neu focs am hyd at 5 diwrnod. Maen nhw ar eu gorau os cânt eu cynhesu yn y microdon am ychydig eiliadau cyn eu bwyta! Byddwch angen hambwrdd cacennau bach neu fyffins ar gyfer y rysáit yma.
Cynhwysion:
150g o flawd cyflawn
Pinsiad o halen
½ llwy de o sinamon
1 llwy fwrdd o olew cneuen goco
2 lwy de o extract fanila
1 banana aeddfed
1 llwy fwrdd o iogwrt groegaidd
100g o lys o’ch dewis chi.
1 llwy de o bowdr pobi
1 wy
12 cwpan myffin
Dull:
- Cynheswch y popty i 170gradd.
- Torrwch yr wy, a’i gymysgu â’r extract fanila, olew cneuen goco a’r iogwrt groegaidd.
- Stwnsiwch y fanana, a’i hychwanegu at y gymysgedd wlyb.
- Mewn powlen arall cymysgwch y blawd, halen, sinamon a’r powdr pobi.
- Arllwyswch y gymysgedd wlyb at y gymysgedd sych a’i gymysgu’n dda.
- Ychwanegwch y llys, a chymysgu eto.
- Rhowch 12 cwpan myffin yn yr hambwrdd cacennau cyn rhoi llond llwy o’r cgymysgedd ym mhob cwpan, ceisiwch sicrhau eich bod yn rhoi’r un faint o’r gymysgedd ym mhob cwpan.
- Rhowch nhw yn y popty am 20-25 munud, neu tan mae’r myffins yn dechrau brownio.
- Gadewch iddyn nhw oeri ychydig cyn eu bwyta!