Yn gyntaf, dwi wrth fy modd efo bwyd, a dwi’n cyfri mynd allan am fwyd fel hobby!
Dwi wedi trio pob un diet sy’n mynd, ond dwi ddim yn sticio iddyn nhw am fwy na wythnos!!! Slimming World, Weight Watchers, 5:2, cyfri calories, ac i fod yn deg nes i golli pwysau yn gwneud pob un, ond gan nad oeddwn i’n sticio i ddim un ohonyn nhw oni wastad yn rhoi’r pwysa yn nôl ymlaen.
Mis Mehefin (2015) nes i benderfynu dechrau bwyta’n iach, yn bennaf i golli pwysau. Felly nes i sdopio bwyta bwyd oedd yn cynnwys refined sugar ac unrhyw processed foods. Oni’n arfer bwyta LLWYTH o siwgr, dau baced o grisps y diwrnod, dwy botel o ddiod fizzy, siocled a phaced o dda da. Roedd y diwrnodau cyntaf yna o ddim sigwr yn uffern, oedd gen i gur yn y mhen ac yn teimlo’n flinedig ac yn flin. Nes i golli bron i hanner sdôn yn yr wythnos gyntaf ac ar ol i’r cur pen basio oni’n teimlo gymaint yn well. Ers hynny dwi wedi parhau i fwyta’n iach, dwi ddim yn cyfri calories ac os rhywbeth yn bwyta mwy nag oeddwn i gynt, a dwi’n teimlo’n grêt. Dwi ddim wedi cario mlaen i fwyta’n iach i golli pwysa, ond am y mod i’n teimlo’n well;
- Mae gen i LOT mwy o egni
- Does gen i ddim symptomau IBS (rhywbeth oeddwn i wedi bod yn dioddef efo fo ers blynyddoedd)
- Mae fngwallt i, y ngwinedd i a nghroen i’n iachach
Erbyn hyn, dwi ddim mor sdricd ag oeddwn i, fyswn i’n deud y mod i’n bwyta’n iach 80% o’r amser, os ydw i’n mynd allan am fwyd fe wna i ddewis beth ydw i eisiau yn hytrach nag mynd am yr opsiwn fwyaf iachus (sydd fel arfer yn salad diflas!). Ond mae’n rhaid i mi ddweud, ers i mi stopio bwyta siwgr, dwi ddim yn ei cravio fo gymaint.
Dwi ddim yn expert ar iechyd a lles na bwyd (dwi wedi dechrau gwneud cwrs nutrition i gael dysgu mwy) o bell ffordd, bwriad y blog yma ydi rhannu ryseitiau a phrofiadau fi a Tom efo unrhyw un sydd â diddordeb.
Gobeithio newch chi fwynhau!
–