Rysáit syml a rhad. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y rysáit hon oedd Chicken Noodle Soup (neu “Jewish Penicillin”). Dwi wedi newid y nwdls am haidd – fysa nwdls yn toddi i mewn i’r cawl yn y pendraw ond mae haidd yn cadw eu siâp.
Un o’r prydau hen ffasiwn yna sy’n gwneud lles i chi wrth ei fwyta.
Cynhwysion
1kg cyw iâr (un cyfan neu coesau)
3 moron, wedi’i torri’n denau
1 nionyn wen, wedi’i phlicio a’i thorri’n denau
2 genhinen, wedi’i dorri’n denau
3 coesyn seleri, wedi’i dorri’n denau
Bresych, wedi’i torri’n ddarnau
100g o datws newydd
250g o haidd perlog (pearl barley)
1 stockpot cyw iâr/llysiau (ospiynnol)
Halen a phupur
Dull
- Rhowch y cynhwysion i gyd yn eich sosban fwyaf. Gorchuddiwch y cyfan gyda dŵr oer a dewch i ferw.
- Coginiwch ar wres canolig isel am awr a hanner tan mae’r cyw iâr a’r haidd wedi eu coginio. Tynnwch y cyw iâr allan o’r sosban a rhowch i un ochr i oeri ychydig.
- Unwaith mae’r cyw iâr wedi oeri digon i’w trin, tynnwch y cnawd i ffwrdd o’r asgwrn gan ei rhwygo i mewn i ddarnau bach. Rhowch y cig yn ôl yn y cawl a rhowch halen a phupur i flas.
- Mae’r cawl yn barod i’w weini; ond gallwch hefyd ychwanegu llysiau gwyrdd megis brocoli a phys a’u coginio am ychydig i ychwanegu mwy o faith a lliw i’r pryd.