Rysáit syml a rhad. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y rysáit hon oedd Chicken Noodle Soup (neu “Jewish Penicillin”). Dwi wedi newid y nwdls am haidd – fysa nwdls yn toddi i mewn i’r cawl yn y pendraw ond mae haidd yn cadw eu siâp. Un o’r prydau hen ffasiwn yna sy’n gwneud lles i chi…
Tag: Cyw Iâr
Cyw Iâr Rhost efo Gremolata
Mae gremolata yn gymysgedd Eidalaidd sy’n cynnwys perlysieuyn, garlleg, a zest lemwn wedi’u torri’n fân. Mae gremolata yn cael ei ddefnyddio fel topiad i amryw o bethau megis cig, pysgod neu lysiau i ychwanegu ychydig o ddisgleirdeb a ffresni i fwyd. Newidiwch y perlysieuyn i newid y blas; bysa rhywbeth fel oregano ffres neu saets…
Cyw Iâr efo Stiw Chickpea a Tomato
Pryd cyflym, ysgafn a ffres sy’n dda beth bynnag y tywydd. Mae hwn mond yn defnyddio un badell ffrio ac yn barod mewn tua 20 munud! Mae’n bosib addasu’r rysáit drwy ychwanegu past cyri ac ychydig o laeth coconyt i greu cyri sydyn. I fwydo 2. Cynhwysion; Pedair clun cyw iâr – efo’r croen ond…
Satay Cyw Iâr
Clasur o’r dwyrain pell. Mae yna gant a mil o ffyrdd i baratoi’r bwyd stryd enwog yma ac felly dyma rysáit Llawn Daioni! I fwydo 2. Cynhwysion; 2 frest cyw iâr 2 lwy de turmerig Llwy de o bowdr coriandr Llwy de o bupur du Fish sauce Soy sauce Llwy fwrdd o siwgr palmwydd /…
Cawl Cyw Iâr a ‘Nwdls’
Cawl ysgafn a blasus i fwynhau wrth i’r tywydd ddechrau oeri. Dwi’n defnyddio corbwmpen yn hytrach na nwdls grawn er mwyn creu pryd sy’n isel mewn carbohydradau, uchel mewn protein a llawn llysiau. Yn fy marn i, mae stoc gartref yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd y pryd gorffenedig. Os gafoch chi rhost cyw iâr…
BFC (buckwheat fried chicken)
Swni’n awgrymu i bawb drio “buckwheat” – gwenith yr hydd ydy ei enw Gymraeg. Dydw i ddim yn dilyn deiet gluten free. Dwi’n defnyddio blawd buckwheat yn y ryseit yma achos bod o’n rhoi blas dwfn a chneuog i’r cyw iâr ond mae o digwydd bod yn flawd heb glwten. Cynhwysion (digon i fwydo 4)…