Rysáit syml a rhad. Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y rysáit hon oedd Chicken Noodle Soup (neu “Jewish Penicillin”). Dwi wedi newid y nwdls am haidd – fysa nwdls yn toddi i mewn i’r cawl yn y pendraw ond mae haidd yn cadw eu siâp. Un o’r prydau hen ffasiwn yna sy’n gwneud lles i chi…