Mae gremolata yn gymysgedd Eidalaidd sy’n cynnwys perlysieuyn, garlleg, a zest lemwn wedi’u torri’n fân. Mae gremolata yn cael ei ddefnyddio fel topiad i amryw o bethau megis cig, pysgod neu lysiau i ychwanegu ychydig o ddisgleirdeb a ffresni i fwyd.
Newidiwch y perlysieuyn i newid y blas; bysa rhywbeth fel oregano ffres neu saets yn neis.
Dwi wedi defnyddio cluniau cyw iâr; ond fedrwch addasu’r rysáit hon i goginio deryn cyfan.
I fwydo dau.
Cynhwysion
Pedair clun cyw iâr – efo’r croen ond heb yr asgwrn
Un i ddau ewyn garlleg
Llond llaw o bersli ffres
Un lemwn
Olew olewydd
Dull
- Cynheswch ffwrn i 200°c.
- Rhowch y cluniau cyw iâr mewn dysgl rhostio efo’r croen yn wynebu i fyny. Diferwch ychydig o olew olewydd drostynt gydag ychydig o halen a phupur. Rhostiwch am tua 30 munud neu tan mae’r cig wedi’i goginio a’r croen yn grisp.
- Tra bo’r cyw iâr yn rhostio, paratowch y gremolata. Pliciwch y garlleg cyn ei dorri’n fân gyda’r persli a’r zest lemwn.
- Unwaith i’r cyw iâr orffen coginio, gwasgarwch y gremolata dros y cyw iâr cyn ei ddychwelyd yn ôl i’r ffwrn am 5 munud ychwanegol.
- Ar ôl y 5 munud, tynnwch y cyw iâr allan o’r ffwrn a rhowch ar blât cynnes i ymlacio. Ychwanegwch sudd lemwn i mewn i’r olew a’r sudd sydd sy’n weddill yn y ddysgl rhostio a chymysgwch yn dda er mwyn creu saws syml.
- Gweinwch gyda thatws stwmp a digon o lysiau gwyrdd.