Efo’r tywydd mor braf roeddwn i’n meddwl y byddai pryd ysgafn syml o ddiddordeb i rai ohonoch chi’r wythnos yma, felly dyma jesd y peth! Asparagus wedi’u rhostio, wŷ wedi’i botsio a dail berwr y dŵr (watercress).
Cynhwysion:
1 wŷ
5 asparagus
3 darn o facwn
Llond llaw o ddail berwr y dŵr
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Halen a phupur
Finegr
Dull:
- Cynheswch y popty i 200 gradd.
- Paratowch yr asparagus; os yw gwaelodion yr asparagus yn galed iawn torrwch nhw i ffwrdd.
- Rhowch yr asparagus mewn powlen all fynd i’r popty a thywallt yr olew arnyn nhw, cyn taenu halen a phupur ar y cyfan. Rhowch nhw yn y popty am chwarter awr (neu tan mae’r asparagus yn dechrau troi’n frown).
- Rhowch ddŵr i ferwi mewn sosban a chynhesu’r gridyll i wres canolig.
- Pan mae ‘na bum munud i fynd tan y bydd yr asparagus yn barod rhowch y bacwn ar y gridyll i goginio.
- Pan mae’r dŵr yn berwi ychwanegwch ddiferyn o finegr a throi’r gwres i lawr tan bod y dŵr yn mudferwi. Torrwch yr wŷ mewn i bowlen fach cyn ei ollwng yn araf mewn i’r dŵr a’i adael i goginio am dri munud.
- Gweinwch bopeth yn syth, cyn i’r melynwy galedu!