Byddai’r cacennau pys a parmesan yma’n gret ar gyfer brecwast neu brunch!
Cynhwysion:
100g o bys wedi rhewi
25g o gaws parmesan wedi ei gratio
½ shibwn spring onion wedi ei dorri’n fân
1 ŵy bach wedi’i gnocio
25g o flawd
Pinsiad o halen
Llwy fwrdd o olew olewydd
Dull:
- Rhowch y pys i goginio mewn dŵr berwedig am 5 munud.
- Cymysgwch y parmesan, spring onion, ŵy, blawd a halen mewn powlen.
- Draeniwch y dŵr o’r pys a’u hychwanegu at y gymysgedd. Stwnsiwch y cyfan â stwnsiwr tatws neu fforc.
- Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio.
- Siapiwch y gymysgedd i siâp pati a’u ffrio. Byddan nhw angen ychydig funudau pob ochr neu tan eu bod nhw’n dechrau brownio.
- Gweinwch ag ŵy wedi’i botsio.