Cynhwysion:
200g o ddatys dates heb y garreg.
50g + 1 llwy fwrdd o gneuen goco wedi sychu a’i dorri’n fân
4 llwy fwrdd o peanut butter
20g o lugaeron sych
Byddwch angen prosesydd bwyd reit fawr i baratoi’r rysáit yma.
Dull:
- Rhowch y datys yn y prosesydd bwyd gyda 4 llwy fwrdd o ddŵr berwedig, gymysgwch tan fo’r datys yn un stwnsh gludiog!
- Ychwanegwch y 50g o gneuen goco at y datys a chymysgu.
- Ychwanegwch y peanut butter at y datys a’r gneuen goco a chymysgu eto.
- Rhowch bapur pobi mewn tun cacen a phwyswch y cymysgedd i waelod y tun. Rhowch y gymysgedd yn yr oergell am chwarter awr.
- Taenwch y llwy fwrdd o gneuen goco, a’r llugaeron sych ar ben y gymysgedd a gweinwch.