Salad Gwenith a Ffa

Dwi’n hoffi’r gwenith yma. Wheatgrain I neu wheat berries yn Saesneg. Mae’n nutty, chewy a mae potyn ohono wedi’i goginio yn handi i gadw yn y ffrij. Dwi’n ychwanegu fo i mewn i uwd, smŵddis, yn ei gymysgu i mewn i iogwrt, neu ei fwyta mewn salad fatha hwn. Fframwaith ydy’r rysáit yma fwy na…

Salad Sbrowts efo Hwyaden

Dwi erioed wedi deall yr holl atgasedd tuag at sbrowts! Bosib fod hen atgofion o sbrowts wedi’u berwi am oriau ag oriau yn dal i hel ofn i dipyn o bobl. Ta beth, dyma bryd ffres ac ysgafn i gael cyn neu ar ôl bwyd trwm y Dolig. Eith y salad yma yn wych gydag…

Salad Moron + “whip” Caws Gafr

Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn…

Salad Haidd Gwyn

Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio grawn gwahanol wrth goginio ac mae haidd gwyn (neu pearl barley) yn un o fy ffefrynnau. Prynwch y fersiwn “quick cook” sy’n barod mewn 10-15 munud. Mae’r salad yma’n ysgafn ond yn swmpus; union be dwi’n hoffi bwyta ar fy awr ginio. Os ydych am baratoi hwn i gael i…

Myffins Llus Sawrus

Mae’r rhain yn grêt os nad ydych awydd rhywbeth rhy felys i frecwast. Maen nhw’n cadw mewn tun, neu focs am hyd at 5 diwrnod.  Maen nhw ar eu gorau os cânt eu cynhesu yn y microdon am ychydig eiliadau cyn eu bwyta!  Byddwch angen hambwrdd cacennau bach neu fyffins ar gyfer y rysáit yma….

Cacennau Pys a Parmesan

Byddai’r cacennau pys a parmesan yma’n gret ar gyfer brecwast neu brunch!   Cynhwysion: 100g o bys wedi rhewi 25g o gaws parmesan wedi ei gratio ½ shibwn spring onion wedi ei dorri’n fân 1 ŵy bach wedi’i gnocio 25g o flawd Pinsiad o halen Llwy fwrdd o olew olewydd   Dull: Rhowch y pys…

Cyw iâr gludiog

Dyma rysáit perffaith ar gyfer swper yn ystod yr wythnos. Os nad ydych chi ffansi salad, byddai’n gweithio’n grêt gyda reis neu nwdls hefyd!   Cynhwysion: 3 llwy fwrdd o saws soy 2 lwy fwrdd o fêl Darn 1cm o sinsir ffres Sbrig o deim ½ bresychen goch fach 1 Moronen fawr 1 Shibwn spring…

Asparagus, Bacwn ac Wŷ

Efo’r tywydd mor braf roeddwn i’n meddwl y byddai pryd ysgafn syml o ddiddordeb i rai ohonoch chi’r wythnos yma, felly dyma jesd y peth! Asparagus wedi’u rhostio, wŷ wedi’i botsio a dail berwr y dŵr (watercress). Cynhwysion: 1 wŷ 5 asparagus 3 darn o facwn Llond llaw o ddail berwr y dŵr 1 llwy…

Pasta, Saws Cashew a Brocoli

Dwi wrth fy modd efo’r rysáit vegan yma. Mae’n syml iawn i’w baratoi ac yn ofnadwy o flasus.  Mae’r rysáit yn gweithio orau os ydych chi’n socian y cnau dros nos. Mae’r rysáit yma ar gyfer dau berson. Cynhwysion; 80g o Basta Cyflawn 50g o gnau Cashew 200ml o ddŵr 100g o frocoli 1 sialotsyn…

Eog, saws soy a mêl

Dwi wedi bod yn ceisio ychwanegu mwy o bysgod i’n neiet dros yr wythnosau diwethaf, felly dyma rysáit eog syml i chi. Mae’r rysáit yma ar gyfer tair ffiled eog. Cynhwysion: Saws Soy Un ewin garlleg Mêl 3 ffiled eog Hadau sesame Dull: Torrwch y garlleg yn fân. Rhowch yr eog mewn dysgl all fynd…

Salad Chickpeas

Dyma salad y gallwch chi ei baratoi os ydych chi ar frys. Does dim cynhwysion egsotig,  mae’n syml, yn flasus ac yn rhad. Cynhwysion 1 nionyn coch 1 tîn 400g o chickpeas ½ cucumber 100g o domatos bach 1 llwy de o flakes tsili 1 llwy fwrdd o sudd lemwn 1 llwy fwrdd o olew rapeseed/olew olewydd…