Dwi erioed wedi deall yr holl atgasedd tuag at sbrowts! Bosib fod hen atgofion o sbrowts wedi’u berwi am oriau ag oriau yn dal i hel ofn i dipyn o bobl. Ta beth, dyma bryd ffres ac ysgafn i gael cyn neu ar ôl bwyd trwm y Dolig. Eith y salad yma yn wych gydag…
Tag: Nadolig
Uwd Nadolig
Yn aml ar fore Dolig, rhwng yr anrhegion, y quality streets a’r pilio tatws, mae fy nhad yn paratoi crochan o uwd i bawb. Yn ddiddorol iawn; mae o’n licio un fo gyda golden syrup a phupur du! Od iawn, dwi’n gwybod! Ond, cofiwch, mae siwgr a sbeis yn mynd law yn llaw efo’r Nadolig…
Peli Ffrwythau
Gan bod y Nadolig yn agosau, roedden ni’n teimlo y dylen ni greu rysait addas ar gyfer yr ŵyl. A beth well na’r peli bach yma? Maen nhw’n blasu fel ‘Dolig, ac mor hawdd i’w paratoi. Cynhwysion: 100g o raisins 100g o sultanas 100g o prunes 100g o flawd almwnd 1 llwy de o cinnamon…