Salad Sbrowts efo Hwyaden

Dwi erioed wedi deall yr holl atgasedd tuag at sbrowts! Bosib fod hen atgofion o sbrowts wedi’u berwi am oriau ag oriau yn dal i hel ofn i dipyn o bobl. Ta beth, dyma bryd ffres ac ysgafn i gael cyn neu ar ôl bwyd trwm y Dolig. Eith y salad yma yn wych gydag…

Marinad Cajun

Dyma farinad Cajun syml, does dim angen prynu’r marinad maen nhw’n werthu yn y siopau pan y gallwch ei wneud eich hunain efo sbeisys sydd yn y cwpwrdd yn barod! Mae’r rysait yma’n ddigon ar gyfer dau ddarn o gig neu bysgodyn. Cynhwysion: 1 llwy fwrdd o baprica 1/2 llwy de o bowdr garlleg 1…

Salad Orzo

Math o basta yw orzo; enw arall ar ei gyfer yw pasta reis. Mae hwn yn mynd yn wych gydag unrhyw bysgodyn neu gyw iâr wedi’i grilio fel rhan o bryd barbeciw. Mae o fyny i chi faint o’r cynhwysion yma hoffwch chi yn eich salad – ychwanegwch mwy o domatos neu mwy o barmesan…

Halloumi, Tomato a Basil

Cinio ysgafn a hawdd efo dim ond ychydig o gynhwysion. Triwch gael hyd i domatos da sy’n felys a llawn blas. Mae’n bwysig cofio fod halloumi yn cynnwys lot o fraster a halen felly byddwch yn ofalus os ydych yn cadw llygad ar eich calorïau. I fwydo 1; lluoswch y rysáit i fwydo mwy. Cynhwysion:…

Tatws Newydd efo Macrell a Dil

Rydyn ni ar ddechrau’r tymor tatws jersey royals felly cymrwch fantais o’u hargaeledd yn y siopau i greu’r rysáit Sgandinafaidd hon! I fwydo 2-4. Cynhwysion; 1kg o datws jersey royal (neu unrhyw datws newydd arall) Tua 300g o facrell wedi’i fygu Llond llaw o ruddygl (radish) Llond llaw o ddil ffres Tair llwy fwrdd o…

Salad Nwdls

Dyma rysait (ddim yn siwr os alla i ei alw’n rysait am ei fod mor syml!) am salad nwdls syml sydd ddim yn cymryd llawer i’r baratoi a ddim yn golygu llawer o goginio!  Mae’n cadw yn yr oergell am ychydig ddiwrnodau, ac yn gret ar gyfer bocs bwyd. Digon i 4 Cynhwysion: 2 stecen (nes i…

Salad Pwmpen, Cig Oen Crisp a Persli

Salad cynnes sydd, yn fy marn i, yn dod a’r gorau allan o bob cynhwysyn. Mae sumac yn sbeis o’r dwyrain canol sydd efo blas sur. Mae’n mynd yn dda efo cyw iâr neu mewn tabbouleh. Mae o werth ei drio! Mae’r picl nionyn cyflym yn cadw yn y ffrij am tua 4 diwrnod. I…

Tatws Newydd, Pys a Berwr

Rhywbeth neis i drio tra bod tatws newydd a phys ffres yn eu tymor. Gallwch ddefnyddio pys wedi dadrewi yn y rysáit hon – fyswn i’n berwi nhw am funud gyda’r tatws. I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 750g o datws newydd Tua 250g o bys ffres wedi’i podio 2 bot o ferwr salad 3 shibwn…

Cyw iâr gludiog

Dyma rysáit perffaith ar gyfer swper yn ystod yr wythnos. Os nad ydych chi ffansi salad, byddai’n gweithio’n grêt gyda reis neu nwdls hefyd!   Cynhwysion: 3 llwy fwrdd o saws soy 2 lwy fwrdd o fêl Darn 1cm o sinsir ffres Sbrig o deim ½ bresychen goch fach 1 Moronen fawr 1 Shibwn spring…

Hwyaden efo pomgranad a peanut

Pryd ysgafn a lliwgar i’w baratoi pan mae’r haul yn tywynnu! Gallwch newid y cig os hoffwch chi – mae’n wych gyda chyw iâr, cig eidion, cig oen , porc neu hyd yn oed eog! Os nad ydych yn gallu dod o hyd i driog pomgranad; defnyddiwch ychydig o saws tamarind neu saws hoisin yn ei…

Asparagus, Bacwn ac Wŷ

Efo’r tywydd mor braf roeddwn i’n meddwl y byddai pryd ysgafn syml o ddiddordeb i rai ohonoch chi’r wythnos yma, felly dyma jesd y peth! Asparagus wedi’u rhostio, wŷ wedi’i botsio a dail berwr y dŵr (watercress). Cynhwysion: 1 wŷ 5 asparagus 3 darn o facwn Llond llaw o ddail berwr y dŵr 1 llwy…

Salad ffenigl ac asbaragws

Salad ffres sy’n gwneud y mwyaf o rhai o lysiau orau’r Gwanwyn / Haf. Mae hwn yn wych gyda chig wedi’i grilio neu ar fruschetta. I fwydo 4. Cynhwysion; 1 Ffenigl 250g asbaragws 150g o  domatos Llond llaw o fintys ffres Lemwn – zest a sudd Tsili – ffres neu sych (opsiynnol) Olew olewydd extra…