Dyma gawl syml sy’n gyfuniad clasurol a’n ffefryn yn tŷ ni! amser yma o’r flwyddyn dwi’n tueddi i neud llond crochan o gawl ar ddechrau’r wythnos – perffaith ar gyfer mynd efo chi i’r gwaith.
Dwi’n defnyddio’r sbeis coriander yn hytrach na’r perlysieuyn oherwydd dwi’n chwilio am flas twfn a chynnes i’r cawl. Mae yna groeso i chi ychwanegu’r perlysiau os hoffwch chi. Gallwch hefyd ddefnyddio cwmin yn hytrach na choriander i gael blas gwbl wahanol i’r cawl.
Mae’r isod ar gyfer 6-8 porsiwn.
Cynhwysion;
Llwy fwrdd o olew olewydd / menyn
Dau kilo o foron, wedi’i phlicio a’i thorri’n denau
Un nionyn wen, wedi’i phlicio a’i thorri’n denau
Tri choesyn seleri, wedi’i thorri’n denau
Llwy ffwrdd o bowdr coriander
Dau litr o ddŵr neud stoc (llysiau neu gyw iâr)
Halen a phupur
Parmesan, i weini (opsiynnol)
Dull;
- Cynheswch sosban fawr ar wres canolig ac ychwanegwch yr olew neu’r menyn cyn ychwanegu’r llysiau gydag ychydig o halen a phupur.
- Coginiwch y cyfan am ryw 5 munud, gan droi’r cynhwysion yn aml. Ychwanegwch y powdr coriander a choginiwch am ddwy funud arall.
- Ychwanegwch digon o ddŵr neu stoc i orchuddio’r llysiau rhowch gaead ar y sosban. Trowch y gwres i uchel a choginiwch am tua am 15 munud neu tan mae’r moron yn feddal.
- Wedi’r moron orffen coginio, rhowch y cyfan yn y blender a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn.
- Gweinwch gyda bara neis ac ychydig o barmesan ac olew olewydd da os hoffwch chi.