Cawl Tomato a Pasta

Cawl hiraethus sy’n blasu mor gyfarwydd. Mae’r afal a’r llysiau melys yn gwneud i’r cawl flasu fel tun o gawl Heinz – sydd yn beth da! Dwi’n defnyddio pasta siâp anifeiliaid i fod yn ciwt ond defnyddiwch unrhyw basta bach fel macaroni, orzo, neu basta arferol wedi’i dorri’n ddarnau bach. Mae’n hawdd iawn gwneud y…

Orecchiette, ffa dringo a tomatos

Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor. Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben…

Fusilli efo Saws Brocoli

Mae hwn yn bryd hyfryd sy’n defnyddio’r brocoli cyfan. Mae’r saws yn gweithio gydag amryw o lysiau gwyrdd fel cêl a bresych. I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 160g o fusili 50g cnau Ffrengig (walnuts) Un brocoli cyfan Ewyn o arlleg wedi’u blicio Olew olewydd Lemwn Pinsiad o tsili sych Parmesan (os oes eisiau) Dull; Torrwch…

Spaghetti Corgimwch

Pasta syml sy’n sy’n barod mewn tua 10 munud! Mi wnes i  ddefnyddio corgimwch wedi’i rhewi ar gyfer y rysáit yma. Gallwch ddefnyddio cranc allan o dun neu gallwch ddefnyddio darnau o frocoli i gadw’r pryd yn llysieuol (ac yn fegan). I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 160g o spaghetti 100g corgimwch amrwd Llond llaw o…

Ragù Cig Oen

Dwi wrth fy modd efo’r rysáit yma! Peidiwch bod ofn yr ansiofi, fydd ‘na ddim blas pysgod – mae o yno i roi dyfnder i’r ragù. Gweinais hwn efo pasta ond mae hefyd yn dda fel llenwad ar gyfer pei bugail. Mae’r rysáit hefyd yn addas i’w baratoi o flaen llaw a’i rewi. I fwydo 6. Cynhwysion;…

Spaghetti Macrell, Tomato a Tsili

Pryd rhad, hawdd a chyflym i’w baratoi. Mae’r saws yn barod yn yr amser mae’n cymryd i’r pasta goginio. Dwi wastad yn cadw tinau o facrell neu diwna yn y cwpwrdd er mwyn creu prydau iach pan mae’r ffrij ychydig yn wag. Mae’r pryd yma yn costio llai na £1 y porsiwn. Cynhwysion, digon i…

“Carbonara” Macrell wedi’u fygu

Wedi dwyn ac addasu hwn gan Jamie Oliver. Dewis gwahanol i gig moch ac mae hi wastad yn dda cael mwy o. Mae’n bosib hepgor y macrell a defnyddio tomatos heulsych yn unig i gadw’r pryd yn llysieuol. Cynhwysion 2 ffiled o facrell wedi’i fygu 8 tomato heulsych 150g o bys wedi’u rhewi 2 garlleg…