Cawl hiraethus sy’n blasu mor gyfarwydd. Mae’r afal a’r llysiau melys yn gwneud i’r cawl flasu fel tun o gawl Heinz – sydd yn beth da! Dwi’n defnyddio pasta siâp anifeiliaid i fod yn ciwt ond defnyddiwch unrhyw basta bach fel macaroni, orzo, neu basta arferol wedi’i dorri’n ddarnau bach. Mae’n hawdd iawn gwneud y…
Tag: Soup
Cawl Moron a Coriandr
Dyma gawl syml sy’n gyfuniad clasurol a’n ffefryn yn tŷ ni! amser yma o’r flwyddyn dwi’n tueddi i neud llond crochan o gawl ar ddechrau’r wythnos – perffaith ar gyfer mynd efo chi i’r gwaith. Dwi’n defnyddio’r sbeis coriander yn hytrach na’r perlysieuyn oherwydd dwi’n chwilio am flas twfn a chynnes i’r cawl. Mae yna…
Cawl Artisiog a Chnau Castan
Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan! Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n…
Cawl Tomato, Pupur Coch a Tsili wedi rhostio
Mae’r rysait yma’n gwneud digon i ddau. Cynhwysion: 1 Pupur coch 1 Ewin o arlleg 1 Nionyn 1 Llwy de o deim 1 Llwy fwrdd o olew olewydd 5 Tomato 1 Tsili coch 100ml o Stoc Llysiau Halen a Phupur Dull: Cynheswch y popty i 160 gradd. Torrwch y pupur coch yn chwarteri, a chael…
Cawl Cyw Iâr a ‘Nwdls’
Cawl ysgafn a blasus i fwynhau wrth i’r tywydd ddechrau oeri. Dwi’n defnyddio corbwmpen yn hytrach na nwdls grawn er mwyn creu pryd sy’n isel mewn carbohydradau, uchel mewn protein a llawn llysiau. Yn fy marn i, mae stoc gartref yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd y pryd gorffenedig. Os gafoch chi rhost cyw iâr…