Mae’r salad yma’n grêt ac yn cadw’n dda yn yr oergell am ddiwrnod neu ddau. Mae’n bosib defnyddio unrhyw lysiau/ffrwythau/cnau yn y salad. Fel arfer byddaf yn defnyddio beth bynnag sydd gen i dros ben yn yr oergell.
Cynhwysion;
125g o Quinoa
Llond llaw o radish
Llond llaw o sugarsnap peas
Tun bach o bys melyn
1 pupur gwyrdd
1/2 nionyn coch
1 llwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy de o sudd lemwn
Dull;
- Rhowch y Quinoa yn y sosban a’i orchuddio gyda dŵr – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y paced.
- Gadewch i’r quiona oeri.
- Torrwch y nionyn, radish a phupur yn fan, a’u hychwanegu yn ogystal â’r pys melyn at y quinoa.
- Ychwanegwch lwy fwrdd o olew olewydd, a llwy de o sudd lemwn.
Byddaf fel arfer yn gweini’r salad gyda dail roced a chyw iâr.