Mae’r peli ceirch yma’n gret os ydych awydd rhywbeth melys. Dw i’n ychwanegu siocled du. Pan yn prynu siocled du byddaf yn gwneud yn siwr fy mod yn prynu siocled du o ansawdd, sydd yn cynnwys o leiaf 70% o cocoa. Mae’n well i chi na siocled cyffredin ac yn fwy maethlon.
Cynhwysion;
150g o geirch
50g o coconut wedi ei dorri’n fân
1 llwy de o cinnamon
Pinsiad o halan
2 wŷ
3 llwy fwrdd o olew coconut
80ml o maple syrup
70g o siocled du wedi ei dorri’n fân
Dull;
- Toddwch dair llwy fwrdd o olew coconut.
- Cymysgwch y ceirch, coconut wedi ei dorri’n , halen a’r cinnamon mewn powlen.
- Cnociwch ddau wy, a’u hychwanegu i’r cymysgedd.
- Ychwanegwch yr 80ml o maple syrup i’r cymysgedd.
- Ychwanegwch yr olew coconut at y cymysgedd (gwnewch yn siwr bod yr olew wedi oeri).
- Ychwanegwch y siocled.
- Yna siapiwch y cymysgedd i beli bychain. Gwasgwch y cymysgedd i gael gwared ag unrhyw ormodedd o maple syrup.
- Rhowch yn y popty ar wres o 160 am 30 munud.