Mae’r pryd yma’n hawdd ac yn flasus. Mae tatws melys yn llawn maeth, maen nhw’n llawn fitamin A a B, ffibr a photasiwm. Mae’r rysait isod ar gyfer un person.
Cynhwysion:
1 tysen felys
2 sleisan o facwn
1 llwy fwrdd o iogwrt
llond llaw o sbigoglys (spinach)
1 spring onion
Mozzarella
Dull:
Cynheswch y popty i 230. Priciwch y dysen felys efo fforc ychydig o weithiau cyn ei rhoi yn y popty am 50-60 munud (yn ddibynnol ar faint y dysen).
Tra mae’r dysen yn pobi coginiwch y bacwn nes ei fod yn crispi! Dwi’n gwneud hyn trwy goginio’r bacwn ar rac weiran yn y popty am rhyw 20 munud (mae’r rac weiran yn golygu bod y braster i gyd yn llifo oddi ar y bacwn sy’n ei wneud yn fwy crispi). Unwaith mae’n barod torrwch yn ddarnau man.
Pam mae’r dysen wedi coginio trwyddi torrwch hi ar ei hyd, a chrafwch du mewn y dysen i bowlen. Byddwch yn ofalus achos bydd angen cadw’r croen yn un darn er mwyn ei llenwi nes ymlaen. Yn y bowlen sdwnshwch y dysen felys efo llwy fwrdd o iogwrt cyn ei roi yn nôl yn y croen.
Toddwch ychydig o fenyn mewn padell, ac ychwanegu lond llaw o sbigoglys am ychydig funudau. Gwasgarwch y sbigoglys ar ben y ddau hanner, yna ychwanegwch y mozzarella a’r bacwn.
Rhowch y ddau ddarn o’r dysen felys yn nôl yn y popty ar wres o 180 am 20munud (neu tan mae’r caws wedi brownio)
Gwasgarwch ychydig o spring onion ar ben y dysen cyn gweini.