“Black Bean & Chestnut Burger”
Oni (Tomos!) ffansi newid pethe a dod fyny efo fwy o ryseitiau llysieuol. Hwn yn ticio pob un bocs i fi. Mae barn pawb ar sut i adeiladu’r byrgyr delfrydol yn wahanol!! Yn bersonol os oes rhywun yn rhoi sos coch ar fy myrgyr i, mae o’n cael fflich at y wal agosaf! Ta beth…
Mae’r rysait yma’n gwneud digon ar gyfer 4 person.
Cynhwysion;
1 tun o Ffa Du Organig wedi ei draenio
1 pecyn 180g o gnau castan parod
2 Shibwn (Spring Onion) wedi eu sleisio’n fân
1 ewyn o arlleg
1/2 tsili Coch
1 a 1/2 llwy de o baprica wedi’i fygu
1 llwy bwdin o rosmari ffres wedi torri’n fân.
llond llaw o barsli
Zest un lemwn
3 llwy fwrdd o buckwheat cyfan / cous cous / quinoa wedi’i goginio.
Halen a phupur
4 rôl Grawn Cyflawn
Llon llaw o letys wedi’i sleisio’n fân
Tomato mawr wedi’i sleisio’n drwchus
Winiwn wedi’i sleisio’n fân
Caws – yn fy marn i does dim byd yn curo’r sleisys rhad o gaws! Mae hi fyny i chi pa fath o i’w ddefnyddio.
Jalapenos mewn jar (dewisol)
Dull;
- Rhowch 2 dreuan o’r ffa du, pecyn cyfan o’r cnau castan, y garlleg, tsili, rhosmari, persli, paprica a’r zest lemwn mewn prosesydd bwyd ynghyd a phinsiad o halen. Cymysgwch tan ei fod yn weddol lyfn ac yna ei dywallt i bowlen fawr.
- Ychwanegwch weddill y ffa a’r buckwheat/cous cous/quinoa i’r cymysgedd a’i gymysgu cyn ei flasu i weld os oes angen fwy o halen a phupur.
- Rhannwch y cymysgedd yn 8 byrgyr tenau (gweler y llun, byrgyr dwbl!) cyn eu rhoi yn yr oergell am ryw hanner awr.
- Cynheswch badell ffrio ar wres canolig.
- Ffriwch y byrgyrs mewn llwy fwrdd o olew coco am ryw 10 munud pob ochr. Rydych chi eisiau creu crwst da ar du allan er mwyn rhoi gwead da i’r byrgyrs. Rhowch y caws ar ben byrgyrs i doddi ychydig.
- Ffriwch y winiwn yn yr un badell a’r byrgyrs am ryw 10-15 munud gan ofalu nad ydyn nhw’n llosgi.
- Cynheswch y rols yn y ffwrn (tua 4 munud mewn ffwrn 160 gradd c)
- Adeiladwch y byrgyrs fel y dymunwch! Dwi’n licio digon o winiwns, tomato ffres ac ychydig o letys.