Mae’r rysáit hon yn bell iawn o fod yn draddodiadol ond fe ddylai’r blas fod yn gyfarwydd iawn i chi! Mae Llawn Daioni wedi bod yn arbrofi gyda blawd coconyt yn ddiweddar – llawn ffibr a phrotein ac efo blas coconyt cynnil sydd ddim yn trechu blasau eraill.
Gwneud tua 12
Cynhwysion;
Blawd Coconyt 100g
Blawd Self Rising 50g
1 Wy
Powdr pobi 1 lwy de
Speis Cymysg 2 lwy de
Olew Cneuen Coco 40g
Llaeth 200ml
Mêl 40g
Cyraints 90g
Datys 50g heb y cerrig
Dŵr Berw
Halen
Dull;
- Rhowch y datys mewn bowlen a gorchuddiwch gyda dŵr berwedig. Gadewch i feddalu am ryw 10 munud. Ar ôl i’r datys feddalu, blendiwch gyda 3 llwy ffwrdd o’r dŵr tan ei bod yn llyfn i greu piwrî datys. Rhowch i un ochr.
- Cymysgwch y blawd coconyt, y blawd self rising, y powdr pobi, y sbeis a phinsiad bach o halen mewn powlen cymysgu addas.
- Toddwch yr olew coco gyda’r mêl mewn sosban ac ychwanegwch hwn i’r llaeth ynghyd a’r wy a’r piwrî datys. Cymysgwch y cynhwysion gyda chwisg tan fod popeth wedi’u cyfuno’n dda.
- Ychwanegwch y cymysgedd gwlyb i’r cymysgedd sych ynghyd a’r cyraints. Cymysgwch yn dda er mwy creu toes.
- Siapiwch y toes i mewn i tua 12 cacen (dibynnu ar faint y cacenni).
- Cynheswch badell ffrio neu radell ar wres canolig isel a choginiwch y cacenni am tua 4 munud bob ochr.
- Gweinwch ym mha bynnag ffordd a dymunwch (neith pinsiad bach o siwgr ddim drwg i chi!)
- Cadw mewn cynhwysydd aerglos (airtight) am hyd at 5 diwrnod.