Cawl Cyw Iâr a ‘Nwdls’

Cawl ysgafn a blasus i fwynhau wrth i’r tywydd ddechrau oeri. Dwi’n defnyddio corbwmpen yn hytrach na nwdls grawn er mwyn creu pryd sy’n isel mewn carbohydradau, uchel mewn protein a llawn llysiau.

Yn fy marn i, mae stoc gartref yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd y pryd gorffenedig. Os gafoch chi rhost cyw iâr ar gyfer eich cinio dydd Sul, mae hwn yn ffordd wych o ddefnyddio’r gweddillion.  Mae’r stoc isod yn handi ar gyfer risottos, caserol, neu ar gyfer cawl gwahanol. Os does gennych chi ddim stoc gartref, defnyddiwch giwb stoc organig.

Cynhwysion Stoc:

Carcas cyw iâr (yr esgyrn a’r croen)

1 foronen wedi’i dorri’n fras

1 winiwn wedi’i dorri’n fras

1 coesyn seleri wedi’i dorri’n fras

Llwy de o finegr seidr / gwin gwyn

  1. Os ydy’r carcas yn amrwd fydd angen ei rhostio mewn ffwrn 180 gradd am ryw 30 -45 munud. Sgipiwch y cam hwn os ydy’r carcas dros ben o’ch cinio rhost.
  2. Rhowch bopeth mewn sosban fawr a gorchuddiwch gyda dŵr.
  3. Mudferwch (“simmer”) bopeth ar wres isel am 1 – 3 awr. Sgimiwch a thaflwch unrhyw wehilion sy’n codi i’r arwyneb.
  4. Hidlwch y cyfan a chadwch yn yr oergell. Defnyddiwch o fewn 3 diwrnod.
  5. Mae’n bosib rhewi’r stoc hefyd.

Ar gyfer y cawl; digon i 2 (barod mewn 5-7 munud)

1 litr o stoc cyw iâr.

1 Corbwmpen mawr (courgette).

250g o gig cyw iâr (cig dros ben o’ch cinio rhost)

50g Salami / Ham wedi’u halltu – wedi’u dorri i mewn i ciwbiau bychain.

200g Mangetout wedi’u selisio ar eu hyd

4 Rhuddygl (radish) wedi’i sleisio’n dennau

2 Shiwbwn (spring onion) wedi’i sleisio’n dennau

Cennin syfi (chives) / Persli / Taragon / Mintys

Dull;

  1. Rhowch y stoc ymlaen i gynhesu mewn sosban addas. Ychwanegwch y ciwbiau o salami neu ham a’r cyw iâr i mewn gyda’r stoc wrth gynhesu.
  2. Torrwch y corbwmpen i mewn i siapiau nwdls unai drwy ddefnyddio “spiralizer”, pliciwr “julliene” neu gyda chyllell finiog. Byddwch angen digon o ‘nwdls’ i lenwi eich powlenni.
  3. Berwch y stoc am ddwy funud er mwyn twymo’r cyw iâr. Blaswch y stoc ac ychwanegwch halen a phupur os oes angen. Ychwanegwch y nwdls corbwmpen a’r mangetout a choginiwch am ryw 30 eiliad yn unig.
  4. Rhannwch y cyfan rhwng dwy bowlen a ychwanegwch y rhuddygl, shibwns a’r perlysiau o’ch dewis chi fel garnais.
Hawlfraint @ LlawnDaioni
hawlfraint @LlawnDaioni

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s