Salad B.L.T

Twist ar B.L.T traddodiadol wrth droi’r frechdan enwog i mewn i salad cynnes. Dwi’n torri lawr ar y carbohydradau wedi’i brosesu drwy ddefnyddio tortillas fel croutons yn hytrach na thafelli cyfan o fara ar gyfer brechdan. Mae’n hollol iawn i chi ddefnyddio unrhyw fath o fara ffes ar gyfer y croutons.

Cynwhysion, digon i 2

Letys cymysg – dau llond llaw

Cig moch (back bacon) 4 sleis

Tomatos bach (cherry) 250g wedi’i hanneri.

Tortilla Brown

Iogwrt plaen – llwy fwrdd

Persli – llwy fwrdd wedi’i dorri’n fân

Finegr Balsamic – llwy fwrdd

Halen a Phupur

Dull;

  1. Cynheswch ffwrn i 180 gradd. Rhowch tua 100g o’r tomatos bach a’r cig moch mewn tin rhostio a choginiwch am 35 munud.
  2. Torrwch y tortilla mewn i ddarnau bach a rhowch hwn yn y popty mewn tin ar wahân am ryw 10 munud neu tan eu bod yn crispi.
  3. Ar gyfer y dresin, cymerwch lwy fwrdd o’r braster sydd wedi dod allan o’r cig moch a chymysgwch gyda’r finegr balsamic a halen a phupur i flas.
  4. Cymysgwch yr iogwrt naturiol gyda’r persli ffres a rhowch i un ochr.
  5. Torrwch y cig moch i mewn i stribedi bach ac ychwanegwch i mewn gyda’r letys cymysg ynghyd â’r tomatos rhost a’r tomatos amrwd. Ychwanegwch y dresin a chymysgwch popeth yn dda cyn ei rhannu ar blatiau.
  6. Topiwch y cyfan gyda’r darnau tortilla crispi ac ychydig o’r iogwrt.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s