Wedi dwyn ac addasu hwn gan Jamie Oliver. Dewis gwahanol i gig moch ac mae hi wastad yn dda cael mwy o. Mae’n bosib hepgor y macrell a defnyddio tomatos heulsych yn unig i gadw’r pryd yn llysieuol.
Cynhwysion
2 ffiled o facrell wedi’i fygu
8 tomato heulsych
150g o bys wedi’u rhewi
2 garlleg
Llond llaw o bersli ffres – y coesau a’r dail wedi’u torri’n fân ond wedi’u cadw ar wahân
Teim ffres
Halen a phupur du
2 Wy
50 ml llaeth
320g o basta
Feta wedi’i rhewi
Dull
- Coginiwch y pasta mewn digon o ddŵr hallt yn ôl cyfarwyddiadau’r paced.
- Cynheswch badell ffrio i wres cymedrol. Sleisiwch y garlleg a choesau’r persli yn fân a ffriwch mewn llwy fwrdd o olew olewydd gyda phinsiad mawr o bupur du am 2 funud.
- Tynnwch y croen i ffwrdd o’r macrell a sleisiwch i mewn i stribedi 1cm o drwch. Torrwch y tomatos heulsych i mewn i dri ac ychwanegwch nhw, y macrell a llwy pinsiad mawr o’r dail teim i mewn i’r badell ffrio. Coginiwch ar wres cymedrol am 4 munud cyn ychwanegu’r pys a sblash o ddŵr coginio’r pasta a choginiwch am 3 munud arall.
- Chwisgiwch yr wyau, llaeth a dail y persli gyda phinsiad o halen a phupur.
- Draeniwch y pasta ac ychwanegwch hwn i’r badell ffrio gan gymysgu popeth yn dda cyn gostwng y gwres i isel.
- Ychwanegwch y cymysgedd wy a chymysgwch bopeth yn dda am ddwy funud tan fod y saws wy yn trwchu.
- Gweinwch yn syth gydag ychydig mwy o bupur du, chydig o’r persli a gratiad bach o feta wedi’i rhewi.