Spaghetti Macrell, Tomato a Tsili

Pryd rhad, hawdd a chyflym i’w baratoi. Mae’r saws yn barod yn yr amser mae’n cymryd i’r pasta goginio. Dwi wastad yn cadw tinau o facrell neu diwna yn y cwpwrdd er mwyn creu prydau iach pan mae’r ffrij ychydig yn wag. Mae’r pryd yma yn costio llai na £1 y porsiwn.

Cynhwysion, digon i 1

80g o spaghetti brown

1 tin o facrell mewn saws tomato

1 ewyn o arlleg wedi’i sleisio’n fân

Pinsiad o tsili sych (i flas)

Olew Olewydd “Extra virgin”

Persli ffres (dewisiol)

Dull;

  1. Rhowch y spaghetti i ferwi mewn dŵr hallt a choginiwch yn ôl cyfarwyddiadau’r paced.
  2. Ar ôl i’r pasta goginio am 5 munud, cynheswch tua llwy de o olew olewydd mewn padell ffrio ac ychwanegwch y tsili a’r garlleg i goginio am funud neu tan mae’r garlleg yn dechrau troi’n euraidd.
  3. Ychwanegwch y macrell a’r saws tomato gan wneud yn siŵr eich bod yn torri’r pysgodyn i mewn i ddarnau bach wrth ei gymysgu gyda’r garlleg a’r tsili. Ychwanegwch ychydig o’r dŵr pasta er mwyn sicrhau bod y saws ddim yn mynd rhy sych.
  4. Ar ôl tua 10 munud o ferwi, fe ddylai’r spaghetti bron a bod yn barod. Trosglwyddwch y spaghetti i mewn i’r badell ffrio gyda’r saws a chymysgwch y cyfan yn dda am tua 2 funud er mwyn gorffen coginio’r pasta yn y saws. Peidiwch â thaflu dŵr y pasta – byddwch angen hwn i lacio’r saws. Cofiwch i ychwanegu halen a phupur i flas.
  5. Gweinwch yn syth gydag ychydig o olew olewydd extra virgin, ac ychydig o bersli ffres os dymunwch.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s