Mae pobi’r cyw iâr yn y saws tomato yn rhoi blas sawrus (savoury) iawn i bopeth. Dwi wedi ceisio cadw’r rysáit yma mor syml â phosib ond teimlwch yn rhydd i ychwanegu pethau fel rhosmari, oregano neu hyd yn oed tsili. Fysa llond llaw o sbigoglys (ffres neu wedi’u rhewi) yn wych ynddo hefyd. Mae’r rysáit hefyd yn dyblu’n dda os rydych am baratoi bwyd i fwy o bobl.
Digon i 2
Cynwysion;
500g o gnocchi
Olew olewydd
Un tun o domatos
Pedair coes/clun cyw iâr (chicken thighs)
Winiwn bach wedi’i dorri’n fân
Un coesyn o seleri wedi’i dorri’n fân
Un neu ddau ewin o arlleg wedi’i dorri’n fân
Dull;
- Cynheswch y ffwrn i 200 gradd Celsius.
- Cynheswch bot caserol ar yr hob cyn sesno a ffrio’r cyw iâr ar yr ochr croen yn unig mewn llwy fwrdd o olew olewydd am tua 5 – 8 munud cyn ei dynnu allan. Rhowch i un ochr.
- Gostyngwch y gwres a ffriwch y moron, seleri a’r garlleg tan ei bod yn feddal – tua 8 munud. Ychwanegwch y tomatos a swiliwch ychydig o ddŵr yn y tin i sicrhau nad ydych yn gwastraffu dim. Ychwanegwch y cyw iâr yn ôl i’r pot a dewch a phopeth fyny i fudferwi (simmer). Gwnewch yn siŵr fod croen y cyw iâr ddim o dan arwyneb y saws.
- Rhowch y pot caserol yn y popty heb ei orchuddio a phobwch am 30 munud.
- Ar ôl 30 munud, cymysgwch y gnocchi i mewn i’r pot a phobwch yn y ffwrn am 20 munud ychwanegol. Fe ddylai croen y cyw iâr fod yn crispi a’r cig yn dendr – profwch i weld bod y gnocchi wedi coginio trwodd cyn gweini.
- Gweinwch hwn gyda salad gwyrdd a bara ffres i fopio’r saws.