Dwi wrth fy modd efo’r rysáit yma! Peidiwch bod ofn yr ansiofi, fydd ‘na ddim blas pysgod – mae o yno i roi dyfnder i’r ragù. Gweinais hwn efo pasta ond mae hefyd yn dda fel llenwad ar gyfer pei bugail. Mae’r rysáit hefyd yn addas i’w baratoi o flaen llaw a’i rewi.
I fwydo 6.
Cynhwysion;
500g Mins Cig Oen
1 foronen
2 goesyn o seleri
1 winiwn/nionyn mawr wedi’i blicio
2 ewin garlleg
Llwy fwrdd o bast tomato
1 tun o domatos
Llond llaw o rosmari ffres wedi’i dorri’n fân (neu lwy de o rosmari sych)
Llwy de o oregano sych
4 ffiled ansiofi
Pinsiad o nytmeg
Dwu lwy fwrdd o finegr gwin coch
Tua 600g o basta fel rigatoni neu penne
Dull;
- Ffriwch y cig oen mewn padell caserol fawr am 10 munud ar dymheredd canolig uchel – does dim angen ychwanegu olew; mae yna ddigon o fraster yn y cig oen. Unwaith mae’r cig wedi brownio, tynnwch y cyfan o’r badell a’i roi ar blât efo papur cegin.
- Torrwch y winiwn, seleri, moron a’r garlleg yn ddarnau bychain (neu defnyddiwch brosesydd bwyd) a rhowch y cyfan yn y badell caserol i goginio am 10 munud. Ychwanegwch y past tomato, rhosmari, oregano a’r ffiledi ansiofi a choginiwch am tua 4 munud cyn dychwelyd y cig oen yn ôl i’r badell. Ychwanegwch y tomatos a llenwch y tun gwag gyda dŵr a’i arllwys i’r badell cyn ychwanegu ychydig o halen a phupur.
- Trowch y gwres yn isel a choginiwch am 40 – 60 munud efo’r caead yn rhannol ymlaen. Ychwanegwch fwy o ddŵr os yw’r cyfan yn edrych braidd y sych.
- Ychwanegwch y nytmeg ac ychydig o finegr i dorri drwy gyfoeth y cig oen.
- Coginiwch y pasta (tua 100g y person) mewn sosban fawr o ddŵr hallt am ddwy funud yn llai na chyfarwyddiadau’r paced. Draeniwch y pasta gan gadw llond mwg o’r dŵr coginio. Dychwelwch y pasta yn ôl i’r sosban efo ychydig o’r ragù (1 porsiwn = 80-100g o basta + 2 lwy fwrdd o ragù) a choginiwch gyda’i gilydd am tua 2 funud ar wres isel. Ychwanegwch ychydig o ddŵr coginio’r pasta os oes angen llacio’r cyfan.
- Gweinwch yn syth gyda salad ffres.